Cyfle i grwpiau wneud cais am gyllid tlodi bwyd ychwanegol
Mae cyfle arall i grwpiau cymunedol ac elusennau sy'n cefnogi pobl yn Abertawe sy'n wynebu tlodi bwyd wneud cais am gyllid.


Hyd yn hyn eleni mae bron £150,000 wedi'i rannu rhwng sefydliadau i ariannu darpariaeth bwyd mewn argyfwng, gan gynnwys bwyd ar gyfer parseli, basgedi a phrydau poeth, gwell cyfleusterau storio a phrynu oergell-rewgelloedd.
Defnyddiwyd yr arian hefyd i helpu i ariannu siopau cymunedol, ciniawau cymunedol, dosbarthiadau coginio, basgedi Nadolig a phrosiectau tyfu bwyd.
Diolch i Lywodraeth Cymru, mae £54,940 ychwanegol bellach ar gael a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mercher 18 Ionawr.
I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cyllidagrantiau
I drafod cais cyn ei gyflwyno, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk