Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau i fwydo disgyblion a chefnogi banciau bwyd

Mae grwpiau ac elusennau sy'n darparu miloedd o brydau o fwyd i ddisgyblion ysgol, teuluoedd a'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod y gaeaf yn Abertawe wedi gwneud cais llwyddiannus am werth £240,000 mewn grantiau i gefnogi eu gwaith.

Food support Winter 2024 with logo

Food support Winter 2024 with logo

Mae'r arian yn rhan o'r pecyn cymorth mwyaf erioed ar gyfer preswylwyr dan ymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn Cyngor Abertawe.

Mae grantiau gwerth £110,000 wedi'u cynnig i 47 o fentrau a fydd yn defnyddio'r arian i fwydo disgyblion mewn ysgolion dros y Nadolig ac yn ystod gwyliau hanner tymor y gaeaf.

Darparwyd 55,000 o brydau i ddisgyblion fel rhan o ymgyrch debyg yn ystod gwyliau'r haf.

Mae £130,000 arall wedi'i ddyfarnu i 60 o sefydliadau er mwyn darparu cymorth bwyd brys i deuluoedd ac unigolion wrth i'r galw gynyddu ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae'r rhain yn cynnwys banciau bwyd, prosiectau sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed neu mewn perygl o fod yn ddigartref a chynlluniau bwyta'n iach a choginio cymunedol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae eu gwasanaethau'n wynebu galw mawr felly rwy'n ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am helpu i ariannu'r grantiau hyn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Rhagfyr 2024