Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'n cyfuno i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas

Bydd nifer o gynlluniau mawr yn Abertawe naill ai wedi'u cwblhau neu'n gwneud cynnydd sylweddol eleni er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ymhellach.

Y Storfa CGI

Y Storfa CGI

Bydd y cynlluniau'n arwain at filoedd mwy o bobl yn gweithio yng nghanol y ddinas er mwyn helpu i ddenu nifer yr ymwelwyr y mae ei angen i gefnogi masnachwyr presennol a denu mwy o siopau a busnesau eraill.

Mae'r datblygiadau y disgwylir iddynt gael eu cwblhau'n fuan yn cynnwys prosiect y swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd y cynllun, a ddatblygir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir yn rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn darparu lle i 600 o swyddi. 

Mae dros 75% o'r swyddfeydd yn y datblygiad bellach dan gynnig a byddwn yn dechrau cyhoeddi'r tenantiaid dros yr wythnosau nesaf.

Disgwylir hefyd i  hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen gael ei gwblhau eleni. Bydd yn cynnwys rhai o wasanaethau'r cyngor, prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas, swyddfa Gyrfa Cymru yn Abertawe, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Llyfrgell Glowyr De Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Fel rhan o bartneriaeth y cyngor â'r arbenigwyr adfywio Urban Splash, disgwylir i waith adeiladu ddechrau eleni ar gyfer adeilad canolfan sector cyhoeddus newydd ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant. Bydd cannoedd o aelodau staff y cyngor yn gweithio yno, ynghyd ag aelodau staff o sefydliadau sector cyhoeddus eraill.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydyn ni i gyd am gael canol dinas ffyniannus, ond rydym yn gwybod bod angen mwy o ymwelwyr ag ef er mwyn cefnogi'r masnachwyr presennol a denu mwy o siopau yn y dyfodol.

"Dyna'r rheswm pam mae rhaglen adfywio sy'n werth £1 biliwn  yn parhau er mwyn helpu i sicrhau bod miloedd mwy o bobl yn gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas. Bydd hyn yn creu'r gwariant y mae ei angen ar siopau i agor a ffynnu.

"Mae Arena Abertawe eisoes wedi agor ac mae prosiectau i ailagor Theatr y Palace a Neuadd Albert wedi'u cwblhau.

"Mae'r cynllun swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin a   gwasanaethau cymunedol Y Storfa'n rhai o gynlluniau niferus a fydd yn ategu'r datblygiadau hyn. Maent yn dangos ein hymrwymiad i greu dinas fodern sy'n ffynnu, gyda mwy o gyfleoedd i weithio, byw, astudio, siopa a mwynhau ynddi.

"Mae'r sector preifat hefyd yn buddsoddi llawer mewn Abertawe, a disgwylir i gynlluniau mawr fel Ardal y Dywysoges a'r adeilad bioffilig hefyd gael eu cwblhau yn 2025. Ceir cynlluniau hefyd i ddefnyddio Adeiladau'r Mond ar Union Street unwaith eto ac i agor Cosy Club yn adeiladau'r Exchange yn yr Ardal Forol."

Mae gwaith trawsnewid Sgwâr y Castell hefyd yn dechrau eleni. Bydd y prosiect yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn mannau gwyrdd, gan gynnwys lawntiau a phlanhigion.

Bydd hefyd atyniad dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol, yn ogystal ag ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored, sgrin deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf, dau bafiliwn newydd ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu yn ogystal â chadw mannau a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Disgwylir hefyd gynnydd eleni ar gyfer gwesty newydd ar dir rhwng LC ac Arena Abertawe, wrth i drafodaethau â datblygwr a gweithredwr a ffefrir barhau.

Cyhoeddir brand y gwesty hwn pan fydd y trafodaethau hyn wedi'u cwblhau.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025