Teuluoedd Abertawe sydd eisoes â phlant yn cael eu hannog i ystyried maethu
Dywed merch 14 oed sy'n aelod o deulu o Abertawe sy'n maethu ei bod hi'n cael boddhad o allu cynnig cartref diogel a chariadus i blant y mae ei angen arnyn nhw.
Y mis hwn yw Mis Plant Gofalwyr Maethu, sy'n cydnabod ac sy'n dathlu'r rôl amhrisiadwy y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae yn eu teulu maeth.
Yn y pen draw, nid dim ond rhieni sy'n maethu, mae eu plant eu hunain hefyd yn gwneud hynny. Maen nhw'n rhannu eu cartref, eu teulu, ac weithiau eu heiddo ac ar adegau mae angen iddyn nhw ymdopi ag ymddygiad anodd a heriol.
Er bod gan rai ddiddordeb mawr mewn maethu, mae llawer yn dweud eu bod nhw'n poeni gormod am yr effaith y bydd yn ei chael ar eu plant eu hunain ac mai hwnnw yw un rheswm mawr pam maen nhw'n dewis peidio â bod yn ofalwyr maeth.
Fodd bynnag, mae gan wasanaeth maethu'r Cyngor, Maethu Cymru, 126 o deuluoedd maethu ar hyn o bryd, ac yn achos 47% ohonyn nhw mae eu plant eu hunain yn dal i fyw gartref.
Mae Joy Stock, sy'n 14 oed, yn un o lawer sy'n mwynhau bod yn rhan o deulu maeth.
Meddai: "Rydw i wrth fy modd yn maethu, mae'n brofiad buddiol dros ben. Mae'r cyfan mor werth chweil pan welwch chi'r wên ar wynebau'r plant, pan fyddwch chi'n gwneud iddyn nhw chwerthin, yn gwneud pethau gyda'ch gilydd fel teulu nad ydyn nhw wedi'u gwneud o'r blaen, ac yn syml yn rhannu eich cartref chi â nhw. Mae'n rhoi cymaint o foddhad i mi."
Pan fydd plentyn yn mynd i fyw gyda theuluoedd maeth am y tro cyntaf, wrth reswm maen nhw ychydig yn ansicr, ond gall hefyd fod yn ofid i blant gofalwyr maeth.
Meddai Joy: "Pan ddaeth ein plentyn cyntaf i aros gyda ni, roedd hi'n teimlo ychydig yn rhyfedd i ddechrau, ond roedd hi mor braf gallu rhoi cartref cariadus iddo. Y cyfan roeddwn i am ei wneud oedd gwneud iddo deimlo'n ddiogel ac yn gysurus."
Mae llawer o ffyrdd y mae maethu wedi bod o fudd i blant maeth eu hunain. Gall eu helpu nhw i dyfu a datblygu, a dysgu pwysigrwydd empathi, gofal, a dealltwriaeth.
Ychwanegodd Joy: "Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n arfer meddwl bod gan bob plentyn fam a dad sydd wastad yno i ofalu amdanyn nhw a'u meithrin. Fodd bynnag, ar ôl tyfu i fyny, sylweddolais i nad felly y mae hi bob tro, gwaetha'r modd. Rwy wedi dysgu bod pob teulu yn wahanol a bod hynny'n iawn am fod llawer o bobl yn y byd sy'n barod i'w meithrin yn y ffordd mae ei hangen arnyn nhw ac maen nhw'n ei haeddu.
"Yr atgof gorau o faethu sydd gen i hyd yma yw gwybod fy mod i'n gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu bywydau. Hoff atgofion eraill yw darllen i'r plentyn maeth yn ystod y nos; canu eu hoff ganeuon gyda'i gilydd yn y car; helpu gyda gwaith cartref; dawnsio gyda nhw a chwarae gemau."
Meddai'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Louise Gibbard: "Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r rôl y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae ar yr aelwyd faethu. Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel, a hoffem ni ddiolch iddyn nhw am y gefnogaeth a'r gofal gwych maen nhw'n eu cynnig.
"Rydyn ni'n gwybod i rai teuluoedd, mai'r effaith bosib ar eu plant nhw sy'n eu rhwystro nhw rhag dod yn ofalwyr maeth. Mae llawer yn aros cyn maethu, nes bod eu plant eu hunain wedi dod yn oedolion ac wedi gadael y nyth. Er bod hyn yn gwbl ddealladwy, mae cymaint o blant ein gofalwyr maeth eu hunain yn dyst i'r effaith gadarnhaol y gall tyfu i fyny mewn teulu maethu ei chael arnyn nhw."
Mae Maethu Cymru Abertawe yn cynnig grŵp cymorth i blant maeth eu hunain, yn ogystal â llawer o weithgareddau a digwyddiadau, gan roi cyfle iddyn nhw gwrdd â phlant eraill gofalwyr maeth sy'n gallu rhannu a deall eu profiadau.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am faethu, yn enwedig sut y byddai'n cyd-fynd â bywyd eich teulu deinamig, ewch i www.swansea.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch 0300 555 0111.