Toglo gwelededd dewislen symudol

Nid yw bod yn sengl yn eich rhwystro rhag maethu, meddai treiathletwr

Roedd y triathletwr brwd Alex Simpson o'r farn na fyddai'n cael ei ystyried yn ofalwr maeth ac yntau'n ddyn sengl sy'n gweithio'n amser llawn.

Foster carer Alex Simpson

Foster carer Alex Simpson

Ond ar ôl cymryd y naid, bellach mae'n un o lawer o aelwydydd un person sy'n rhan o deulu Maethu Cymru Abertawe - yn wir nhw yw 30% o ofalwyr maeth yn y ddinas.

Bod yn sengl - boed yn ddyn neu'n fenyw - yw un o'r chwedlau lu sy'n bodoli ynghylch maethu ond cyn belled â'ch bod chi dros 18 oed a bod gennych chi ystafell wely sbâr, nid yw eich statws perthynas yn ffactor sy'n penderfynu a allwch chi faethu ai peidio.

Yn fyr, mae Maethu Cymru Abertawe am gael gofalwyr maeth gwych sy'n gallu cefnogi ac annog plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a gall person sengl - boed yn ddyn, yn fenyw, yn hoyw, yn syth neu'n drawsryweddol - wneud hyn yr un mor effeithiol â chwpl.

Dywedodd Alex, sy'n gweithio yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant, er ei fod yn gweithio'n amser llawn ac yn hyfforddi'n ddyddiol i baratoi ar gyfer digwyddiadau triathlon, fod maethu yn rhywbeth y bu'n meddwl amdano ers sawl blwyddyn ond ei fod yn ofni na fyddai'n addas.

Ychwanegodd: "Mae pob un person yn dod â phersbectif a set o sgiliau gwahanol at faethu - ni waeth beth yw eich statws priodasol neu eich cyfeiriadedd rhywiol. Am wn i yn fy achos i, roedd bod yn sengl yn gwneud y broses yn llawer cynt ac yn rhwydd."

Gall pobl faethu yn fwy rhan-amser trwy gynnig seibiant neu gyfnodau byr am gwpl o nosweithiau'r mis, a dyna sut y dechreuodd Alex.

I ddechrau roedd ganddo fachgen yn ei arddegau yn aros gydag ef am seibiant, ond yn fuan iawn y daeth hi'n amlwg eu bod nhw'n gweddu'n berffaith i'w gilydd ac roedd Alex am ymrwymo i ofalu am y llanc nes iddo droi'n oedolyn, gan ei gefnogi trwy addysg.

Meddai Alex: "Mewn cyfnod byr o amser, es i o ddarparu cyfnodau byr a seibiant, i ofalu am y bachgen yn y tymor hir. Dwi ddim wedi gorfod aberthu dim byd drwy wneud hynny chwaith."

Dywedodd Alex fod camdybiaethau yn aml fod pobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal maeth yn fwy heriol neu drafferthus na phlant iau, ond dywedodd nad dyna'r gwir o gwbl.

Ychwanegodd: "I mi doedd dim dwywaith amdani: byddwn i'n meithrin pobl ifanc yn eu harddegau. O ddechrau'r broses, roeddwn i'n glir mai dim ond lleoliadau seibiant/tymor byr i blant hŷn yr oeddwn i am eu cynnig.

"Roedd hyn oherwydd fy mod i eisiau gallu ymwneud yn llawn â'r person ifanc a chynnig iddo nid yn unig le diogel ond hefyd gyfle i wneud gweithgareddau y tu allan i'r cartref.

"Dim ond sôn am fy mhrofiad i y galla i ei wneud, ond os ydych chi'n trin y person ifanc â pharch ac yn rhoi lle iddo wneud ei benderfyniadau ei hun heb yr angen i geisio gorfodi eich gwerthoedd a'ch cred chi arno, daw'r parch hwnnw'n yn ôl atoch chi.

"Byddwn i'n argymell maethu yn bendant. Os caiff ei wneud am y rhesymau cywir, mae'n rhoi cymaint o foddhad. Mae'r gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud i berson ifanc trwy gynnig lle diogel iddo a gwneud iddo gael ymdeimlad o berthyn yn deimlad anhygoel. Mae Maethu Cymru Abertawe wedi bod yn wych o'r alwad ffôn gyntaf. Maen nhw'n ymateb yn dda, yn agored ac yn onest iawn, ac rwy'n credu ei bod hi'n yn bwysig iawn i berson deimlo ei fod yn cael ei gefnogi."

Mae Maethu Cymru Abertawe yn chwilio am bobl i fod yn rhan o gymuned sy'n annog plant mewn gofal maeth i gael dyheadau uchel, gan eu sicrhau nhw y gallan nhw gyflawni unrhyw beth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Louise Gibbard: "Mae gormod o chwedlau ar led o hyd ynghylch pwy fyddai'n addas i faethu ond mewn gwirionedd, ychydig iawn o rwystrau sy'n atal pobl rhag maethu.

Pa un ai a ydych chi'n gweithio neu'n ddi-waith, yn sengl neu'n briod, yn 26 neu'n 72, a oes gennych chi 3 o blant neu ddim plant, yn berchen ar eich tŷ eich hun neu'n byw mewn tai cymdeithasol, gallwch chi faethu.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am faethu a sut y gall gyd-fynd â'ch deinameg deuluol neu eich ffordd o fyw, mae Maethu Cymru Abertawe yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth ddydd Mercher 22 Ionawr, 6-8pm yn yr Ystafell Gymunedol yn Tesco Llansamlet. Dewch draw i siarad â gofalwyr maeth.

Am ragor o wybodaeth am faethu, ewch i: https://abertawe.maethucymru.llyw.cymru/

Fel arall, cysylltwch â Thîm Maethu Cymru Abertawe ar 0300 555 0111.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Ionawr 2025