Blwyddyn brysur arall ar gyfer y tîm canfod twyll
Mae tîm canfod twyll Cyngor Abertawe'n helpu i arwain y ffordd yng Nghymru drwy gau'n dynn ar y rheini sy'n ceisio camddefnyddio'r system drwy hawlio arian neu wasanaethau cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt.
Y llynedd roedd galw uchel parhaus am y gwasanaeth, gyda channoedd o honiadau newydd o dwyll yn cael eu gwneud i'r cyngor. Roedd y rhain yn amrywio o dwyllwyr trefnedig yn ceisio cael grantiau'r pandemig a grantiau busnes eraill gan y cyngor, i'r rheini a oedd yn hawlio budd-daliadau neu ryddhad treth y cyngor yn dwyllodrus, neu'n camddefnyddio'r system barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Roedd cyfanswm o 49 o achosion yn destun ymchwiliadau manwl yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan arwain at wrthod dwsin o geisiadau am grantiau ac arbediad o £27,000.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ei fod yn hollbwysig bod y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar wasanaethau bob blwyddyn yn cyrraedd y rheini y mae ei angen arnynt. Ond, ar yr un pryd, rhybuddiodd y bydd y cyngor yn gweithredu'n llym ar dwyll, lle bynnag y ceir hyd iddo.
Mae gwaith y cyngor i fynd i'r afael â thwyll wedi'i amlygu yn adroddiad blynyddol y tîm gwrth-dwyll, sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf.
Ymysg y ffigurau a nodwyd yn yr adroddiad mae cyfanswm o 379 o achosion o dwyll posib yr adroddwyd wrth y cyngor amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2021/2022, sy'n gynnydd ar y ffigur o 302 o'r flwyddyn flaenorol.
Gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll budd-dal, treth y cyngor, tai cymdeithasol a thwyll bathodyn glas honedig.
O'r honiadau hyn, mae 72 ohonynt naill ai wrthi'n cael eu harchwilio neu'n cael eu gwerthuso o hyd ar gyfer camau gweithredu pellach.