Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Digwyddiadau am ddim dros yr wythnosau nesaf er mwyn helpu teuluoedd i arbed arian

Mae digwyddiadau am ddim i ddathlu Calan Gaeaf a noson tân gwyllt ymysg y rheini sydd ar y gweill er mwyn helpu miloedd o deuluoedd yn Abertawe i arbed arian dros yr wythnosau nesaf.

Halloween in Castle Square

Halloween in Castle Square

Mae'r digwyddiadau am ddim, a drefnwyd gan Gyngor Abertawe yn cynnwys Ysbrydion yn y Ddinas yn Sgwâr y Castell a'r arddangosfa tân gwyllt flynyddol ar hyd Bae Abertawe.

Bydd Ysbrydion yn y Ddinas, sy'n dechrau am 11am ddydd Sadwrn 29 Hydref, yn cynnwys adloniant i'r teulu, gemau, perfformiadau dawns, cerddoriaeth, colur theatraidd, helfa bwmpenni, cymeriadau Calan Gaeaf a phropiau erchyll ar gyfer tynnu lluniau.

Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda gorymdaith bwmpenni am 3pm.

Cynhelir digwyddiad ym Marchnad Abertawe ar yr un diwrnod a fydd yn cynnwys sioeau bwganllyd, portreadau Calan Gaeaf erchyll, paentio wynebau, addurno bisgedi a chyfleoedd i wneud eich gwisg Calan Gaeaf eich hun.

Bydd y sioe tân gwyllt am ddim yn dechrau am 6pm nos Sadwrn 5 Tachwedd gydag adloniant cyn y sioe, gan gynnwys sioe dân, diddanwyr wedi'u goleuo a pherfformwyr yn cerdded o gwmpas.

Yna, am 7pm cynhelir yr arddangosfa tân gwyllt am ddim mewn bad ar y môr am y tro cyntaf erioed, gan oleuo dyfroedd y bae i filoedd o bobl ei fwynhau o'r promenâd a'r traeth.

Bydd gwybodaeth am barcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwnnw ar gael yn fuan.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae digwyddiadau am ddim fel hyn yn bwysicach nag erioed eleni, gyda chynifer o deuluoedd a phreswylwyr yn poeni am sut i gael deupen llinyn ynghyd oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Felly, fel cyngor, rydym yma i Abertawe a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi pobl leol - naill ai drwy ddarparu digwyddiadau o safon, am ddim i bobl leol eu mwynhau neu sicrhau bod y rheini sy'n gymwys ar gyfer cymorth ariannol yn derbyn y taliadau mae ganddynt hawl iddynt yn eu cyfrifon banc cyn gynted â phosib.

"Mae'r digwyddiadau Calan Gaeaf a noson tân gwyllt yn rhan o nifer o ddigwyddiadau rhad neu am ddim i'w gwneud yn Abertawe, gydag arddangosfeydd am ddim a gweithgareddau eraill hefyd ar gael yn ein lleoliadau diwylliannol fel Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas."

Mae manylion am ddigwyddiadau rhad neu am ddim yn Abertawe ymysg yr wybodaeth ar wefan cymorth costau byw a ddatblygwyd gan y cyngor.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer arbed ynni, gwybodaeth am gymhwysedd a ffurflenni cais ar gyfer taliadau, a rhestrau o draethau a pharciau Abertawe lle gall preswylwyr fwynhau'r awyr agored yn yr hydref hwn a thu hwnt.

Close Dewis iaith