Archebwch nawr ar gyfer cyrsiau dysgu gydol oes am ddim
Mae'r cyfnod i gofrestru ar gyfer dwsinau o gyrsiau am ddim a gynigir gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Abertawe wedi cychwyn.
Caiff dosbarthiadau ar gyfer tymor y gwanwyn eu cynnig eto mewn amrywiaeth eang o fformatau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae llawer o gyrsiau i ddewis ohonynt gan gynnwys ioga, gitâr, celf, caligraffeg, Sbaeneg llafar, ffotograffiaeth ddigidol, coginio, sgiliau hanfodol, dosbarthiadau cyfrifiadur a llawer mwy.
Os yw pobl yn ansicr a yw eu sgiliau digidol yn ddigon da ac yr hoffent gael help i fynd ar-lein yn ddiogel, yna mae cefnogaeth TG am ddim ar gael i'w helpu.
Meddai Cyd-aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Ers dechrau'r pandemig mae'r gwasanaeth Dysgu Gydol Oes wedi cynnig ei holl gyrsiau'n rhad ac am ddim a bydd yn gwneud yr un peth eto yn nhymor y gwanwyn.
"Mae cannoedd o ddysgwyr wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd a mis Ionawr yw'r amser perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd a dechrau'ch taith ddysgu."
"Ni chodir tâl am y dosbarthiadau felly beth am wahodd ffrind neu ddau i ymuno â chi?"
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/dysgugydoloes, e-bostiwchdysgu.gydol.oes@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637101.