Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid sy'n werth miliynau'n helpu teuluoedd gyda'u biliau tanwydd

Dros £3.35m - dyna faint sydd wedi cael ei dalu i deuluoedd ar draws Abertawe yn yr wythnosau diweddar fel rhan o gynllun i helpu pobl wresogi'u cartrefi'r gaeaf hwn.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae'r cynllun cymorth tanwydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir yn lleol gan Gyngor Abertawe, yn golygu bod hawl gan aelwydydd cymwys i hawlio taliad o £200.

Ers i'r cynllun gychwyn gyntaf tua diwedd mis Medi, mae'r cyngor wedi prosesu miloedd o geisiadau gan ateb cannoedd o ymholiadau dyddiol hefyd dros y ffôn ac e-bost.

Mae mwy na 16,700 o aelwydydd Abertawe wedi derbyn y taliad eisoes, ac mae 5,500 yn rhagor o geisiadau'n cael eu harchwilio mor gyflym â phosib. Mae mwy a mwy o geisiadau'n cael eu derbyn bob dydd.

Mae gan bobl tan 28 Chwefror y flwyddyn nesaf i wneud cais ac mae ffurflenni cais a gwybodaeth am gymhwyster ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r swm enfawr a dalwyd i deuluoedd ac aelwydydd mewn angen yn y tair wythnos diwethaf yn glod i holl staff y cyngor sy'n ymwneud â'r broses.

"Dyma un o'r ffyrdd y mae'r cyngor yn cefnogi'n preswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw gan ein bod yn cydnabod yr effaith y mae'n ei chael ar arian a lles pobl.

"Dyna pam rydym hefyd wedi rhoi'r wefan cymorth costau byw ynghyd sy'n rhoi pob math o wybodaeth ddefnyddiol i bobl, gan gynnwys cynlluniau ariannu y gallant fod yn gymwys ar eu cyfer, yn ogystal â manylion ynghylch cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol, cyngor annibynnol ar ddyled, awgrymiadau arbed ynni, swyddi gwag, digwyddiadau am ddim a llawer mwy."

Anfonodd y cyngor lythyrau gwahodd ym mis Medi at dros 21,000 o aelwydydd yr oedd wedi gallu nodi eu bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd, ond mae llawer mwy o aelwydydd nad oeddent wedi derbyn llythyr a fydd hefyd yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn.

Dyna pam y mae unrhyw un sy'n credu ei fod yn gymwys  nad yw wedi derbyn llythyr yn cael ei annog i fynd i wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r taliadau cymorth tanwydd hyn yn ychwanegol at yr ad-daliad bil ynni sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a thaliad tanwydd y gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw i weld yr holl help, cyngor a chefnogaeth ar gyfer costau byw sydd ar gael.