Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid i helpu busnesau twristiaeth wella'u cynnig

Yn dilyn llwyddiant cyllid gan y cyngor i gefnogi'r sector twristiaeth, mae cyllid pellach ar gael yn awr i helpu busnesau llety i dwristiaid bach yn rhannau gwledig neu rannol wledig Abertawe wella'u cynnig.

New Gower Hotel

New Gower Hotel

Gall busnesau wneud cais am hyd at £10,000 a ddarperir gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) y DU.

Dyma'r trydydd tro i'r math hwn o gyllid cymorth twristiaeth gael ei ddarparu.

Roedd y ddwy rownd gyntaf yn ganlyniad cyllid uniongyrchol a ddarparwyd gan Gyngor Abertawe fel rhan o'i strategaeth adferiad economaidd i gefnogi'r sector twristiaeth ar ôl y pandemig.

Arweiniodd y cyllid hwnnw at welliannau mewn 23 o fusnesau twristiaeth yn Abertawe a oedd yn cynnwys adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi, cyfleusterau en-suite newydd, cyfarpar storio beiciau a glampio hygyrch.

Arweiniodd hyn hefyd at fwy o fusnesau'n ymuno â chynllun graddio Croeso Cymru a phartneriaid newydd yn gweithio gyda thîm twristiaeth y cyngor.

Roedd tîm twristiaeth y cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid ychwanegol o fewn prosiect angori diwylliant a thwristiaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan alluogi buddsoddiad pellach yn y sector.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Roedd twristiaeth yn werth mwy na £0.5bn i economi Bae Abertawe yn 2022, felly rydym yn cydnabod ei phwysigrwydd yn fawr

"Mae ein busnesau twristiaeth yn gwneud gwaith gwych i godi proffil y cyrchfan a chreu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol, ond gwyddwn o'n harolwg diweddaraf o'r fasnach dwristiaeth fod angen mwy o gymorth gan y cyngor i barhau i helpu'r busnesau hyn gyda'u hadferiad o'r pandemig.

"Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu trefnu bod rhagor o gyllid ar gael, fel rhan o'n dyraniad o'r Gronfa Ffyniant Gyffredinol, gan adeiladu ar lwyddiant cyllid blaenorol a ddarparwyd gan y cyngor.

"Er ei fod yn cael ei glustnodi'r tro yma o ganlyniad i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae nod cyffredinol y cyllid yn aros yr un peth - helpu busnesau twristiaeth i wella ansawdd eu cynnig, boed hynny drwy gyflawni gradd uwch gan Croeso Cymru neu'r AA neu wella'r profiad i ymwelwyr."

Gall busnesau llety bach gyda llai na 25 o weithwyr gyflwyno ceisiadau yn awr, a than ddydd Sul 22 Hydref, 2023.

Mae'n rhaid i bob prosiect a gynigir gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.

Gall busnesau twristiaeth cymwys sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu wneud cais fynd i https://www.abertawe.gov.uk/article/17260/Cronfa-Cymorth-i-Dwristiaeth-2023-24 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2023