Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle busnes yng nghanol y ddinas ar gyfer gweithredwr caffi

​​​​​​​Mae cyfle ar gael i lansio busnes bwyd a diod yn un o leoliadau diwylliannol mwyaf canol dinas Abertawe.

Glynn Vivian

Glynn Vivian

Mae Cyngor Abertawe eisiau prydlesu'r ardal gaffi yn Oriel Gelf Glynn Vivian i weithredwr bwyd a diod awyddus newydd neu bresennol.

Bydd y lesddeiliad yn gallu chwarae rôl allweddol mewn helpu miloedd o bobl i fwynhau canol y ddinas, y mae eisoes ganddo ddiwylliant caffi ffyniannus gyda lleoliadau annibynnol ac enwog.

Meddai Cyd-Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, David Hopkins, "Dyma gyfle gwych i lesddeiliad newydd a chanddo feddwl busnes wneud yr oriel yn lle hyd yn oed mwy cyffrous i ymweld ag ef.

"Rydym yn annog pobl leol i fwynhau canol eu dinas, sy'n cynnwys cannoedd o fusnesau sy'n gweini'r cyhoedd - a bydd caffi newydd yn y Glynn Vivian yn eu helpu i wneud hynny."

Mae'r oriel ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer amrywiaeth eang o bobl.

Mae ei hardal bwyd a diod eisoes wedi'i gosod ar ffurf caffi. Roedd yn cael ei defnyddio tan y llynedd. Mae bellach yn cael ei marchnata ar gyfer y cyngor gan y syrfewyr siartredig o Abertawe, Hunt & Thorne. 

Ar gael am bris rhent blynyddol o £5,500, mae'n cynnwys caffi 320 troedfedd sgwâr, storfa ac ardal eistedd sy'n cael ei rhannu â'r oriel.

Mae mewn lleoliad amlwg yng nghanol y ddinas yn agos at orsaf drenau Abertawe, gyferbyn ag adeilad y brifysgol ac yn agos at fusnesau, swyddfeydd, sefydliadau fel BBC Cymru Wales yn ogystal â channoedd o gartrefi myfyrwyr a phreifat.

Cynnig prydles:  www.bit.ly/GVcafeLease

Llun: Y Glynn Vivan

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2023