Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n serennu mewn drama ar-lein

Yr wythnos hon, mae Abertawe wedi bod yn llwyfan ar gyfer GALWAD, drama aml-lwyfan sy'n cael ei dangos ar sianelau digidol a darlledu.

Galwad - Swansea Market

Galwad - Swansea Market

Gan gyfuno adrodd straeon confensiynol â thechnoleg newydd, mae GALWAD: STORI O'N DYFODOL, yn caniatáu i gynulleidfaoedd ddilyn y stori mewn amser go iawn ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein eraill.

Mae elfen Abertawe o'r stori yn datblygu mewn tri lleoliad cyfarwydd. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Casgliad Cymru, partneriaeth wedi'i harwain gan National Theatre Wales, i hyrwyddo'r cynhyrchiad.

Mae tîm GALWAD yn cynnwys unigolion dawnus o Abertawe, fel Aisha-May Hunte, Matthew Aubrey, Anthony Matsena a Marc Rees.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae GALWAD yn cyfuno gwahanol ddulliau o adrodd straeon â thechnoleg ddigidol i greu rhywbeth newydd a chyffrous.

"Pan fydd pobl yn gweld lleoliadau Abertawe ar y sgrîn, mae'n creu diddordeb sy'n cefnogi ein hymdrechion marchnata i ddenu rhagor o ymwelwyr."

Dechreuodd stori GALWAD gyda storm drydanol dros Fae Abertawe. Adroddir y stori mewn amser go iawn ar www.galwad.cymru ac ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â @GALWAD22.

Nos Sul (2 Hydref) gallwch wylio'r stori gyfan ar Sky Arts rhwng 4.30pm a 9pm.

Comisiynwyd GALWAD gan Cymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK.

Llun GALWAD ym Marchnad Abertawe. Llun - Kirsten McTernan

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2022