Ewch ati i fod yn heini gyda thîm chwaraeon ac iechyd Cyngor Abertawe!
Mae preswylwyr o bob oed yn Abertawe yn cael eu hannog i fod yn heini - am gost isel.
Mae tîm chwaraeon ac iechyd y cyngor yn croesawu'r flwyddyn newydd gydag amrywiaeth o weithgareddau fforddiadwy sydd ar gael ar draws yr ardal.
Maent yn cynnwys Zumba, cerdded Nordig, sesiynau ffitrwydd llai heriol a mwy.
Cynhelir y gweithgareddau mewn parciau ac adeiladau cymunedol ac maent yn agored i bawb.
Mae'r tîm chwaraeon ac iechyd hefyd yn annog pobl i ymuno â grwpiau cerdded sy'n helpu i gael pobl allan i'r awyr agored mewn ffordd gymdeithasol.
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn rhoi llawer o gyfleoedd i bobl ddod yn heini ac aros yn iach wrth i 2023 ddechrau. Mae opsiynau newydd gwych i gadw'n heini - a gellir eu mwynhau am gost isel.
"Mae'n werth chweil ymuno â grwpiau cerdded lleol y ddinas hefyd."
Gellir dilyn y tîm chwaraeon ac iechyd ar Facebook @ChwaraeonAcIechydAbertawe a Twitter @Sport_CCS.
Mwy:
- Chwaraeon ac Iechyd cost isel yn Abertawe - www.bit.ly/SHswansea
- Parciau a gweithgareddau awyr agored - www.abertawe.gov.uk/parciau
- Grwpiau cerdded - www.abertawe.gov.uk/grwpiaucerdded
Llun: Ta'i Chi gyda thîm chwaraeon ac iechyd y cyngor