Toglo gwelededd dewislen symudol

Costello a Level 42 ymysg tocynnau'r arena sydd bellach ar werth

Mae rhaglen Arena Abertawe ar gyfer 2022 yn parhau i dyfu gyda thocynnau bellach ar werth ar gyfer Elvis Costello and The Imposters, Australian Pink Floyd, Level 42 a Steve Hackett.

Steve Hackett

Steve Hackett

Dyma'r sioeau diweddaraf i'w cyhoeddi gan y lleoliad, gyda llawer mwy o gyhoeddiadau i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Bydd Elvis Costello and The Imposters yn perfformio yn Arena Abertawe nos Lun, 20 Mehefin, Australian Pink Floyd nos Wener 28 Hydref a Level 42 nos Fercher 9 Tachwedd.

Bydd cyn-brif gitarydd Genesis, Steve Hackett, yn perfformio yn yr arena ar 9 Medi.

Mae Arena Abertawe, a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn rhan o ardal newydd cam un Bae Copr sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.

Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain ar waith adeiladu cam un Bae Copr a disgwylir i'r datblygiad fod yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

Ymysg yr actau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer Arena Abertawe mae Royal Blood, Jersey Boys, Alice Cooper and The Cult, Alan Carr a John Bishop.

Ewch i www.swansea-arena.co.uk i brynu tocynnau a gweld y rhestr o berfformwyr ar gyfer 2022 hyd yma.