Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyda'i gilydd! Cerfluniau'r ddinas gyda'i gilydd fel atyniad celf am ddim

​​​​​​​Mae 10 glôb Abertawe o'i llwybr celf cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn cael eu harddangos mewn un lle am y tro cyntaf i greu profiad addysgol, unigryw.

Globes Together

Globes Together

Mae'r arddangosfa am ddim o gerfluniau The World Reimagined gyda'i gilydd yn berffaith ar gyfer pobl sydd am dreulio amser da am ddim yn ystod mis Hydref - Mis Hanes Pobl Dduon.

Byddant yn eu lleoliad newydd - rhwng eglwys Dewi Sant ac Eglwys y Santes Fair - tan ddechrau mis Tachwedd.

Mae'r cerfluniau'n gyfle i siarad am sut y mae'r gorffennol - yn enwedig yr hen fasnach drawsatlantig mewn caethweision o Affrica - yn llywio'r dyfodol.

Mae'r globau, a oedd tan yr wythnos diwethaf wedi'u gosod fel llwybr cerddadwy, bellach wedi dod at ei gilydd.

MeddaiMichelle Gayle, cyd-sylfaenydd The World Reimagined:"Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn ymweld â'r globau yn Sgwâr Dewi Sant."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Yn 2020, ynghyd ag eraill yn y ddinas, gwnaethom ymrwymiad i adlewyrchu hanes a threftadaeth ddiwylliannol ein holl gymunedau'n well. Drwy waith ein gwasanaethau diwylliannol a chymunedol rydym yn parhau i anrhydeddu'r addewid hwn."

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, y cyngor ac eraill.

 

 

 

 

Close Dewis iaith