Toglo gwelededd dewislen symudol

Come As You Really Are | Abertawe Agored 2025 - galwad am gofrestriadau

Mae'r artist arobryn Hetain Patel yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â'r arddangosfa fwyaf o'n hoff hobïau yn Abertawe ym mis Chwefror.

Glynn Viv Swansea Open 2025

Bydd arddangosfa boblogaidd Abertawe Agored yn dychwelyd i Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2025 mewn fformat newydd cyffrous fel rhan o brosiect cenedlaethol Come As You Really Are. Mae'r prosiect a arweinir gan yr artist arobryn sy'n frwdfrydig dros Spider-Man, Hetain Patel ac Artangel, yn gwahodd yr holl wneuthurwyr, addaswyr, crefftwyr, casglwyr ac artistiaid o bob math i rannu eu hoff hobïau. Eleni, mae Abertawe Agored yn gwahodd preswylwyr Abertawe i gyflwyno eu gwaith i arddangosfa flynyddol sy'n ehangu ei chylch gwaith i gynnwys gwneuthurwyr, addaswyr a chasglwyr.

Mae'r arddangosfa'n agored i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae'n dathlu hobïau fel ffordd o gyfleu ein creadigrwydd cynhenid ac fel dull hunanfynegiant.

Fel yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae'r arddangosfa ar agor i ddisgyblaethau o baentiadau, cerfluniau, gwaith cerameg a darluniadau i emwaith, gwaith metel a thecstilau. Eleni ehangir y gwahoddiad i gynnwys sbectrwm ehangach o grefftau a diddordebau a allai gynnwys gwisg-chwarae, casglu, creu canhwyllau, rhwymo llyfrau a llawer mwy. Ni waeth beth sy'n mynd â'ch bryd, rydym am glywed ennych!

Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Hetain Patel ar y cyd ag Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd mewnbwn gan grwpiau cymuned ddysgu'r oriel. Am gyfle i gymryd rhan yn yr arddangosfa, gweler y canllawiau ar gyfer cyflwyno cais: Canllawiau cyflwyno

Dyddiadau Allweddol

Cyflwyno darnau o waith: 11:00-16:00 ddydd Iau 9 Ionawr, ddydd Gwener 10 Ionawr neu ddydd Sadwrn 11 Ionawr 2025           

Dyddiadau'r arddangosfa: 15.02.25 - 27.04.25

Mae Come As You Really Are yn brosiect cenedlaethol sy'n cynnwys 13 o gyflwyniadau partner ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban o haf 2024 i 2026. Gallwch ddarllen rhagor am y prosiect yn: artangel.org.uk

Meddai Karen MacKinnon, curadur y Glynn Vivian,

"Mae'r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ddathlu creadigrwydd a brwdfrydedd pobl ein dinas dros eu hobïau. Rydym yn annog ceisiadau gan yr holl wneuthurwyr, artistiaid, casglwyr a hobïwyr.

"Hyd yn oed os nad ydych am gymryd rhan eleni, helpwch i ledaenu'r gair a dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu i weld y dathliad gwych hwn o hobïau amrywiol a chyffrous."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Rhagfyr 2024