Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dwy ysgol gynradd yn Abertawe yw'r rhai cyntaf i ennill gwobr aur am y Gymraeg

Ysgolion Portmead a Phenlle'r-gaer yw'r ddwy ysgol gynradd gyntaf yn Abertawe i ennill gwobrau aur am eu gwaith i annog disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i siarad mwy o Gymraeg yn fwy aml, yn y dosbarth a'r tu hwnt iddo.

Portmead School Welsh Award

Portmead School Welsh Award

O ganlyniad i lawer o waith caled a chefnogaeth oddi wrth bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Abertawe, mae'r ddwy ysgol wedi derbyn gwobr aur y Siarter Iaith.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon sy'n ceisio ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Meddai Alison Evans, Pennaeth Ysgol Gynradd Portmead, "Yn Ysgol Portmead, mae'r iaith Gymraeg yn flaenoriaeth ac mae plant yn defnyddio'r Gymraeg drwy gydol y dydd a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth mewn ffyrdd difyr a chyffrous, sy'n golygu bod gennym agwedd gadarnhaol tuag at ein hiaith."

Penllergaer School Welsh Award

Meddai Sarah Burns, Pennaeth Ysgol Gynradd Penllergaer, "Rydym yn falch o fod yn Gymreig ac rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

"Yr iaith Gymraeg yw un o'n blaenoriaethau pwysicaf ac rydym am helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni eu nod o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae ethos ein hysgol yn cyd-fynd ag ethos y Siarter Iaith, sef ein bod am ysbrydoli ein disgyblion i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae'r Siarter Iaith i bawb."

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi ein hysgolion i gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg yn gymdeithasol ac rydym yn defnyddio'r Siarter Iaith fel rhan o'n Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg."

Close Dewis iaith