Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb cymunedol newydd ar gyfer yr Ardal Forol

Bwriedir creu hwb newydd yn Ardal Forol Abertawe i fynd i'r afael â theimlo'n ynysig ac i helpu i gryfhau'r gymuned leol.

Goleudy logo

Goleudy logo

Bydd yr Hwb Goleudy, a fydd yn cael ei redeg gan yr elusen wrthdlodi, Goleudy, ar lawr cyntaf The Customs House yn Cambrian Place.

Mae Goleudy wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer y prosiect gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd yr hwb ar agor i holl aelodau'r gymuned, o blant hyd at yr henoed.

Ar ôl ei gwblhau, bwriedir iddo ddod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau yn y gymuned wrth ddarparu man i bobl gwrdd, bwyta, defnyddio cyfleusterau a rennir a chael mynediad at gyngor, gwybodaeth a phoethfan digidol.

Darperir gweithdai dysgu sgiliau newydd yn yr Hwb Goleudy hefyd, yn ogystal â chyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau a chrefftau.

Gallai'r rhain gynnwys man coginio cymunedol sy'n dangos i bobl sut i baratoi prydau bwyd iachus a chost isel. Cynigir gardd gymunedol hefyd, ynghyd â gwasanaethau i helpu pobl i ddatblygu sgiliau bywyd o ran rheoli arian, a man lles a fydd o bosib yn cynnwys gardd synhwyraidd.

Bydd yr Hwb Goleudy hefyd yn cynnal prosiect 'Connect' yr elusen ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl, ac yn ehangu ei wasanaeth oergell gymunedol. Bydd cynaladwyedd wrth wraidd y prosiect gyda thechnolegau gwyrdd yn cael eu cynnwys lle bo'n bosib wrth ddylunio'r hwb, a chyfleusterau'n cael eu darparu i gefnogi ailgylchu, effeithlonrwydd ynni ac egwyddorion economi gylchol.

Bydd yn ategu'r man ymgysylltu, y Cwtsh Cydweithio, a sefydlwyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe mewn perthynas ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r Cwtsh Cydweithio, sef cartref newydd tîm ymgysylltu â'r gymuned y cyngor, bellach ar agor yn ystod yr wythnos.

Ar ddydd Llun cyntaf y mis mae digwyddiad gwybodaeth galw heibio yn yr amgueddfa, gyda phartneriaid yn trafod meysydd fel iechyd, lles a chyflogaeth.

Bydd y tîm trosedd gasineb o Heddlu De Cymru ar gael yno ar ddydd Iau o 11am, a bydd sefydliadau eraill yn defnyddio'r gwasanaeth i hyrwyddo'r gweithgareddau maent yn eu cynnal ar gyfer amrywiaeth eang o gymunedau.

Meddai'r Cyng. Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r Hwb Goleudy'n brosiect gwych sy'n haeddu'r cymorth ariannol yn fawr, ac sy'n adeiladu ar agoriad diweddar y Cwtsh Cydweithio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

"Yn ogystal â darparu man lle gall pobl leol gwrdd a chymryd rhan mewn gweithgareddau, bydd yr Hwb Goleudy hefyd yn lleoliad sy'n darparu cymaint yn fwy - o hyfforddiant a chyfleoedd i hybu sgiliau a chyflogadwyedd i ddigwyddiadau cymunedol a chysylltiadau â sefydliadau celfyddydau lleol.

"Bydd y prosiect hwn o fudd i bobl o bob oedran, ac yn helpu i fynd i'r afal â thlodi a theimlo'n ynysig wrth ddod â'r gymuned ynghyd. Bydd yn cael ei gyfuno â'r Cwtsh Cydweithio er mwyn rhoi cyfle i bobl yn yr ardal honno gael mwy o mynediad at gefnogaeth a chyngor wyneb yn wyneb nag erioed o'r blaen.

"Mae'n un o nifer o brosiectau sy'n cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wrth i ni geisio sicrhau budd i gynifer o breswylwyr a busnesau â phosib yn Abertawe."

Meddai Suzanne Morris, Cyfarwyddwr Gweithredol (Cryfhau Cymunedau) Goleudy, "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu defnyddio cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i wneud y prosiect gwych hwn yn realiti. Mae Goleudy wedi bodoli yn Abertawe ers bron 50 mlynedd ac mae'r Hwb yn cynrychioli pennod newydd a chyfle gwych i'r gymuned leol."

Bydd y gymuned yn parhau i fod yn rhan o bob cam o ddatblygiad y prosiect. Bydd pobl leol hefyd yn cael cyfle i ymuno â thîm gwirfoddoli Goleudy ac yn helpu i lywio rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau'r hwb.

Bydd gwaith Goleudy gydag ysgolion cynradd yn cael ei ehangu a bydd cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael i ddisgyblion ysgolion uwchradd sy'n cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin.

Ewch i'r wefan hon am ragor o wybodaeth am weithgareddau wythnosol tîm ymgysylltu â'r gymuned y cyngor ac i gofrestru ar gyfer cylchlythyr wythnosol. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Hydref 2023