Cam mawr ymlaen yn yr arfaeth i gynlluniau ar gyfer buddsoddiad enfawr mewn dwy ysgol uwchradd
Gallai cynlluniau ar gyfer buddsoddiad mawr i drawsnewid addysg i filoedd o ddisgyblion mewn dwy ysgol uwchradd yn Abertawe gymryd cam mawr ymlaen y mis hwn.


Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymryd y camau nesaf ar gyfer gwelliannau enfawr yn Ysgol Tregŵyr ac adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan.
Mae cynlluniau i ddisodli hen ystafelloedd dosbarth ac adeiladau eraill yn Nhregŵyr ac i adnewyddu ac uwchraddio ardaloedd eraill o'r ysgol.
Byddai disgyblion a staff yn elwa o gyfleusterau llawer gwell ar gyfer dysgu, chwaraeon, hamdden a defnydd cymunedol.
Gofynnir i aelodau'r Cabinet neilltuo cyllid ar gyfer dyluniad manwl a cham cyn-adeiladu'r prosiect.
Gofynnwyd eisoes i ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach am eu syniadau cychwynnol, a byddai contractwyr yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod y cynlluniau terfynol yn diwallu eu hanghenion.
Mae cynlluniau ar wahân i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan ar safle hen Ysgol Gymunedol Daniel James ym Mynydd-bach.
Byddai'r adeiladau presennol ar y safle, gan gynnwys y rheini a feddiannwyd yn flaenorol gan YGG Tirdeunaw, yn cael eu dymchwel a'r safle'n cael ei glirio cyn codi'r adeilad newydd, a disgwylir i'r elfen hon o'r gwaith ddigwydd y flwyddyn nesaf.
Byddai Ysgol yr Esgob Vaughan yn aros yn ei leoliad presennol heb unrhyw darfu ar ddisgyblion a staff nes bod yr ysgol newydd yn barod i'w meddiannu, o bosib mewn tua phum mlynedd.
Gofynnir i aelodau'r Cabinet roi eu cymeradwyaeth ar gyfer cyfnewid tir arfaethedig ag Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw a newidiadau posib i unrhyw drefniadau prydlesu perthnasol sy'n gysylltiedig â'r tir.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg, Robert Smith, "Yn Abertawe rydym yn gweld y buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hadeiladau ysgol gyda mwy na £400m wedi'i glustnodi i greu cyfleusterau o'r radd flaenaf i roi'r gefnogaeth orau bosib i ddisgyblion gyrraedd eu potensial llawn.
"Mae llawer o'n hysgolion uwchradd eisoes wedi elwa o fuddsoddiad ac rwy'n falch bod ein cynlluniau ar gyfer ysgolion Tregŵyr a'r Esgob Vaughan yn datblygu, yn ogystal â buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe.
"Bydd miloedd mwy o ddisgyblion yn elwa o'r prosiectau diweddaraf hyn am flynyddoedd lawer i ddod."