Ysgol gynhwysol yn gwerthfawrogi ac yn dathlu disgyblion
Mae arolygwyr wedi datgan bod Ysgol Gynradd Tregŵyr yn cynnig amgylchedd cynnes a chynhwysol lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi, ei groesawu a'i ddathlu.


Mae'r arweinwyr wedi meithrin diwylliant cryf o ddysgu a gwaith tîm ymhlith y staff a'r disgyblion, gan sicrhau bod yr athrawon yn cydweithio'n effeithiol i greu gwersi diddorol a phwrpasol.
Roedd ymagwedd arloesol yr ysgol at hyrwyddo annibyniaeth disgyblion wedi creu argraff hynod ffafriol ar y tîm o Estyn a ymwelodd â'r ysgol yn gynharach eleni.
Gwnaeth Estyn ganmol yr ysgol am sefydlu prosesau a ystyriwyd yn ofalus sy'n hyrwyddo annibyniaeth, ymreolaeth a dewisiadau dysgu disgyblion o oedran ifanc.
Mae'r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cwricwlwm sy'n adlewyrchu'r gymuned leol mewn modd ystyriol, gan feithrin ymdeimlad o berthyn ac annog disgyblion i wireddu eu potensial. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn magu sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf, a chydnabuwyd bod addysgu mathemateg yn gryfder penodol.