Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau Abertawe yn mynd yn wyrdd wrth i'r ddinas fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Bydd cannoedd o fusnesau Abertawe yn dod ynghyd yr wythnos nesaf i hyrwyddo datgarboneiddio wrth i ymgais y ddinas i ddod yn sero-net barhau.

Hoogah members of staff

Hoogah members of staff

Mae'r Gynhadledd Fusnes Adferiad Gwyrdd, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn ddydd Llun 27 Mehefin, yn cael ei threfnu gan 4theRegion mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

Bydd y gynhadledd, lle bydd siaradwyr a stondinau, yn arddangos busnesau Abertawe o bob maint sy'n helpu i adeiladu economi werdd y ddinas.

Bydd y gynhadledd a fydd yn para o 9.30am i 3.00pm hefyd yn cyfeirio busnesau at gymorth ariannol, yn dangos dealltwriaeth o'r rhwystrau y gall rhai busnesau eu hwynebu, ac yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar sut gall busnesau ddatgarboneiddio yn y ffordd orau.

Ariennir y digwyddiad gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Nod y gynhadledd yw rhannu enghreifftiau o arfer gorau gan fusnesau lleol, helpu eraill yn eu taith tuag at ddatgarboneiddio ac ysbrydoli ymdeimlad cyffredin o bwrpas a gweledigaeth.

"Mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom, ond mae ymrwymiad ac arloesedd ein busnesau lleol gwych yn golygu bod Abertawe ar y llwybr iawn i wireddu ein nod o fod yn ddinas sero-net erbyn 2050.

"Fel awdurdod lleol, mae'n bwysig ein bod yn gosod esiampl wych, felly mae'n braf gweld ein bod yn gwneud cymaint o gynnydd yn ein huchelgais i fod yn gyngor sero-net erbyn 2030.

"Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae'r cyngor wedi torri'i allyriadau carbon 61%, gan helpu Abertawe i ddod yn ddinas fwy gwyrdd a ffyniannus."

Meddai Dawn Lyle o 4theRegion, "Rydym am glywed am yr hyn y mae busnesau'n ei wneud eisoes a thrafod yr hyn y gallem ei wneud ar y cyd i greu economi werdd gadarn ar gyfer Abertawe. Mae camau gweithredu y gall pob sefydliad eu cymryd, fel hyrwyddo teithio llesol a defnyddio ynni adnewyddadwy. Mae hefyd syniadau mawr sy'n gofyn am gydweithrediad. Rydym yn gyffrous i ddod ynghyd fel cymuned fusnes i siarad am y dyfodol a hoffem annog unrhyw fusnes i ddod i'r gynhadledd a bod yn rhan o'r trafodaethau hyn."

Bydd Ange Bettany, cyd-sefydlydd Hoogah Café, Bar and Kitchen ar Bryn-y-môr Road, ymhlith y rheini a fydd yn y gynhadledd.

Meddai, "Ynghyd â ffocws arbennig o ddwys ar ailgylchu a hyfforddi'n staff ynghylch gwastraff bwyd, rydym yn rhoi cryn bwyslais ar ddod o hyd i gymaint â phosib o'n cynnyrch o'r ardal leol.

"Mae'r penderfyniadau bach hyn y mae busnesau'n eu gwneud yn feunyddiol yn hanfodol bwysig gan eu bod yn cyfuno i greu effaith enfawr.

"Mae Abertawe wedi gwneud cryn gynnydd yn y pum mlynedd diwethaf o ran cynaladwyedd a masnachu moesegol, sy'n dechrau cael ei ymgorffori mwyfwy yn ein diwylliant.

"Bydd y gynhadledd yn gyffrous oherwydd bydd yn helpu busnesau fel ein un ni i gwrdd â phobl o'r un anian, wrth alluogi pawb sy'n bresennol i ddysgu technegau newydd a fydd yn gwneud mwy fyth o wahaniaeth yn y dyfodol."

Bydd adborth o'r gynhadledd yn helpu i lywio cynllun gweithredu cyfunol ar gyfer cwmnïau lleol.

 

Close Dewis iaith