Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Sgwâr y Castell: Y cyhoedd i lunio'i ddyfodol gwyrdd a chroesawgar

Symudodd dyfodol newydd disglair i ganolbwynt pwysig yn Abertawe gam yn nes heddiw.

Castle Square - future

Castle Square - future

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno ar gysyniad cain newydd ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas - un sy'n cyflwyno mwy o wyrddni, hwyl a rhesymau i ymweld.

Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd eleni, cefnogwyd cysyniad y cyngor ar gyfer lle gyda rhagor o goed, gwair a phlanhigion eraill gan 95% o bobl.

Mae dyluniad manwl wedi'i lunio ers hynny - ac fe'i cyflwynwyd i'r cabinet heddiw.

Cytunodd yr aelodau i neilltuo cronfeydd cyllid cyfalaf i gefnogi'r datblygiad dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y cynlluniau nawr yn destun proses gynllunio ffurfiol yr haf nesaf. Bydd hyn yn gyfle arall i'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

Os cymeradwyir y cynlluniau, mae'n bosib y bydd y gerddi newydd yn cael eu defnyddio erbyn diwedd 2023. Mae'r gwaith gwella'n rhan o gynllun gwerth £1bn i adfywio Abertawe, sy'n cysylltu â'r gwaith i weddnewid Ffordd y Brenin a Wind Street, Bae Copr a chynlluniau eraill sydd ar ddod sy'n werth miliynau o bunnoedd mewn lleoliadau fel safle'r Ganolfan Ddinesig.

Gyda'i gilydd, byddant yn arwain at gadw a chreu miloedd o swyddi yng nghanol y ddinas a daw Abertawe yn lle ble mae mwy o bobl am fyw, gweithio, astudio a threulio amser rhydd o safon.

Mae'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer gerddi Sgwâr y Castell yn dangos:

Rhagor o wyrddni: Mae cynllun plannu wedi'i ddatblygu i gynnwys coed newydd, toeon gwyrdd, gerddi glaw a mwy o ardaloedd tirluniedig hygyrch. Bydd yn adlewyrchu strategaeth isadeiledd gwyrdd y cyngor. Byddai bioamrywiaeth yn cynyddu a byddai'r rhan fwyaf o'r coed presennol yn aros, ond plennir coed newydd hefyd.

Dau bafiliwn caffi-bwyty: Bydd un yn yr ardal risiau bresennol, a'r llall ger siop Zara.

Ardal fwy gweithredol: Bydd y nodwedd dŵr bresennol yn mynd. Yn lle, bydd nodweddion jetiau dŵr ar lefel y ddaear.

Hunaniaeth gryfach:Mae llawr patrymog gan ddefnyddio'r cerrig presennol a rhai mewnosodion gwenithfaen newydd yn ganolog i'r dyluniad. Bwriedir gosod goleuadau modern a nodweddion celf digidol hefyd.

Gwell cysylltiadau ag ardaloedd cyfagos: Gellid cyflwyno seddau ac ardaloedd bwyta awyr agored newydd yn Temple Street a Princess Way.

Dyluniwyd y weledigaeth, sy'n ystyried barn y cyhoedd a fynegwyd i'r cyngor dros y blynyddoedd diwethaf, gan y penseiri mawr eu parch ACME a'r rheolwyr datblygu, Spider.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd ein Gerddi Sgwâr y Castell gwyrddach a mwy croesawgar yn chwarae rôl allweddol yn nyfodol mawr Abertawe. Mae'r cysyniad 21ain ganrif hwn yn ystyriol o orffennol gwyrdd y lleoliad.

"Bydd pobl am dreulio mwy o amser yng Ngerddi Sgwâr y Castell, cynnal digwyddiadau yno a mwynhau ei golwg mwy gweithredol ac arbennig.

"Bydd yn llawer mwy addas i'r teulu - Gerddi Sgwâr y Castell ar gyfer yr 21ain ganrif."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd Gerddi Sgwâr y Castell yn hygyrch i bawb, ac yn ganolbwynt ar gyfer cynulliadau.

"Bydd y gwyrddni ychwanegol yn cynnig buddion amlswyddogaethol i breswylwyr ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu cyrchfan deniadol i ymwelwyr.

"Bydd y nodweddion dŵr newydd yn atyniad gweledol ac yn nodwedd chwarae newydd.

Caiff y gwaith ei ariannu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trwy ddefnyddio cyllideb y cyngor. Byddai refeniw yn dod o brydlesau ar gyfer yr unedau bwyd a diod. Byddai'r sgrîn fawr yn aros yno.