Cyllid digidol a gwyrdd ar gael i fusnesau Abertawe
Mae cyllid bellach ar gael i helpu busnesau Abertawe i arbed arian ar eu biliau ynni a gwella'u gwelededd ar-lein.
Mae grantiau Cyngor Abertawe, sy'n amrywio o £500 i £1,500 ar gael i gefnogi busnesau presennol sydd eisiau tyfu.
Mae cynlluniau y gellir defnyddio'r Grant Arloesi Gwyrdd ar eu cyfer yn cynnwys buddsoddi mewn mesurau fel goleuadau LED sy'n lleihau'r defnydd o ynni. Gellir hefyd ddefnyddio'r grant ar gyfer archwiliadau ynni, yn ogystal â gwneud newidiadau mewn prosesau gweithgynhyrchu er mwyn lleihau ôl-troed carbon.
Mae creu gwefan am y tro cyntaf, datblygu gwefan bresennol neu gymorth gydag ymgyrchoedd marchnata ar-lein ymysg y meysydd a all fod yn gymwys am y Grant Datblygu Digidol.
Ariennir y ddau grant gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.
Bydd angen i'r holl ymgeiswyr llwyddiannus ariannu 50% o gostau'r prosiect.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gwelededd digidol a help i leihau'r defnydd o ynni ymysg y meysydd lle mae angen ein cymorth fwyaf ar ein busnesau, felly byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â diddordeb i wneud cais am y cyllid sydd bellach ar gael.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein busnesau lleol i Abertawe, a dyna pam rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i ddarparu cyngor a chefnogaeth, ni waeth beth yw maint eich busnes neu ba sector y mae'n rhan ohono.
"Mae ein Tîm Cefnogi Busnes yn barod i drafod gofynion eich busnes a'ch helpu i nodi'r cymorth mwyaf priodol sydd ar gael."
E-bostiwch GrowthGrant@abertawe.gov.uk i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y Grant Arloesedd Gwyrdd neu'r Grant Datblygiad Digidol.
Gall busnesau Abertawe hefyd fynd i https://www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael yr holl wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.