Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwrychoedd uchel

Ceisiwch ddatrys eich problem gwyrchoedd drwy siarad â'ch cymdogion cyn cysylltu â ni. Os na all yr anghydfod gael ei ddatrys, gallwn asesu'r achos a gweithredu fel trydydd parti annibynnol a diduedd.

Nid oes gofyniad cyffredinol y dylai pob gwrych gael ei gadw islaw uchder penodol, ond os ydym yn credu y gellir cyfiawnhau'r gŵyn, gallwn fynnu bod perchennog y gwrych sy'n peri problem leihau ei uchder.

Pa gwynion y gellir eu hystyried?

Gallwch anfon cwyn atom os:

  • nad ydych wedi gallu datrys y broblem gyda'ch cymydog. Cysylltu â ni ddylai fod yr ateb olaf. Os nad ydych wedi cysylltu a thrafod y broblem gyda'ch cymydog yn gyntaf, caiff eich cwyn ei gwrthod;
  • mae'r gwrych dan sylw'n cynnwys dwy neu fwy o goed neu lwyni bytholwyrdd neu led-fytholwyrdd yn llwyr neu'n bennaf;
  • mae'r gwyrch dros ddwy fetr mewn uchder;
  • mae'r gwrych yn gweithredu, i ryw raddau, fel rhwystr i olau; ac
  • oherwydd ei uchder, mae'n cael effaith andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o'i gartref neu ei ardd.

Sut byddwn yn mynd i'r afael â'r gŵyn?

Ffurflen gwyno gwrychoedd uchel (PDF) [114KB]
Canllawiau ar wrychoedd uchel (PDF) [69KB]

Mae ffi o £320 i ni fynd i'r afael â phroblem gwyrchoedd uchel.

Nid yw deddfwriaeth yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i ni eu dilyn wrth benderfynu ar gwynion, ond byddwn yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol ac yn asesu pob achos yn ôl ei rinweddau. Byddwn yn casglu gwybodaeth am wrychoedd, yr effaith ar yr achwynydd a pherchennog y gwrych a'i gyfraniad i amwynder ehangach yr ardal.

Ym mhob achos, byddwn yn penderfynu, yn y lle cyntaf, a yw uchder y gwrych yn cael effaith andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o'i gartref neu ei ardd. Os felly, byddwn yn ystyried pa gamau gweithredu, os o gwbl, y dylid eu cymryd o ran y gwrych er mwyn unioni'r effaith andwyol a'i atal rhag digwydd eto.

Hyd yn oed os yw'r gwrych yn effeithio'n andwyol ar eiddo'r achwynydd, efallai y byddwn yn dod i'r casgliad nad oes angen cymryd camau gweithredu o ran y gwrych.

Os bydd angen gweithredu

Os ydym yn penderfynu bod angen gweithredu i ddatrys y gŵyn, byddwn yn rhoi hysbysiad ffurfiol i'r person sy'n gyfrifol am y gwrych gan nodi'r hyn sydd angen ei wneud ac erbyn pryd. Gelwir hyn yn 'hysbysiad lliniaru'.

Gallai hyn gynnwys cynnal a chadw'r gwrych i uchder is yn yr hir dymor, ond gallai gynnwys peidio â lleihau uchder y gwrych islaw 2 fetr, na'i waredu. Er na allwn fynnu ar gamau gweithredu o'r fath, byddai pob rhyddid gan berchennog y gwrych i fynd ymhellach na gofynion yr hysbysiad lliniaru.

Apeliadau

Byddai perchennog y gwrych a'r achwynydd yn gallu apelio yn erbyn ein penderfyniad. Rhaid iddynt wneud hynny o fewn 28 niwrnod i ddyddiad hysbysu'r ddau barti am y penderfyniad. Byddai'r hysbysiad lliniaru'n cael ei ohirio wrth benderfynu ar yr apêl.

Gorfodi

Bydd methu cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad lliniaru'n drosedd. Os bydd rhywun yn cael ei euogfarnu yn Llys yr Ynadon, gallent gael dirwy hyd at £1,000. Yn ogystal, neu yn lle dirwy, gallai'r llys roi gorchymyn i'r troseddwr gyflawni'r gwaith gofynnol o fewn cyfnod penodol o amser. Bydd methu cydymffurfio â gorchymyn y llys yn drosedd arall, sy'n atebol am ddirwy o £1,000. Ar y pwynt hwn, byddai'r llys hefyd yn gallu pennu dirwy ddyddiol am bob diwrnod y byddai'r gwaith yn parhau heb gael ei wneud.

Os na fydd y gwaith yn yr hysbysiad lliniaru yn cael ei wneud, mae gennym y pŵer i fynd i'r eiddo a gwneud y gwaith dan sylw, gan adennill unrhyw gostau gan berchennog y gwrych, ond nid oes unrhyw ofyniad na rhwymedigaeth arnom i ymyrryd yn y ffordd hon.

Close Dewis iaith