Mae gŵyl ddeuddydd yn dod i Abertawe gyda rhai pen-cogyddion enwog, cerddoriaeth fyw a llawer o hwyl
Bydd Gŵyl Croeso'n codi hwyliau pawb yng nghanol y ddinas gyda'i rhaglen o adloniant amrywiol.
Bydd Gŵyl Croeso Abertawe sy'n dathlu diwylliant Cymru, yn dod â chyffro i ganol y ddinas pan fydd yn dychwelyd ddydd Gwener 25 a dydd Sadwrn 26 Chwefror.
Trefnir y digwyddiad am ddim gan Gyngor Abertawe. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwn yn Abertawe.
"Mae'n gyfle gwych i arddangos ein bwydydd a diodydd blasus a denu pobl newydd i ganol y ddinas i weld y pen-cogyddion wrthi'n coginio a phrofi rhywbeth newydd yn Abertawe."
Gall unrhyw ymwelwyr â Gŵyl Croeso, a gynhelir bob dydd rhwng 11am a 4pm, ddisgwyl rhaglen gyffrous o adloniant ac arddangosiadau coginio a fydd yn codi chwant bwyd arnoch. Hefyd, mae'r digwyddiad am ddim, felly gallwch fynd am dro o gwmpas y lleoliadau yng nghanol y ddinas a dewis beth bynnag rydych chi'n ei hoffi.
Bwydydd blasus ar y fwydlen
Mae bwyd a diod o Gymru'n ganolog i ŵyl Croeso, a bydd ceginau ar gael yng nghanol Marchnad Abertawe ac mewn pabell ddynodedig ar Portland Street ar gyfer rhaglen brysur o arddangosiadau coginio.
Mae'r rheini sydd ar y rhestr o ben-cogyddion a chogyddion cartref enwog yn cynnwys Hywel Griffith, Nathan Davies a Bryn Williams o Great British Menu, The Dirty Vegan ar y teledu, Matt Pritchard, a Samantha Evans a Shauna Guinn o Sam and Shauna's Big Cook Out.
Mae prif gyflwynydd Dirty Sanchez ar MTV bellach yn ben-cogydd feganaidd ac yn athletwr o fri sy'n hoffi dangos pa mor arbennig, maethlon a hawdd ei goginio yw bwyd feganaidd. Bydd Matt yn arddangos bwydydd gwych a wnaed o blanhigion sy'n blasu'n 'banging' yn ei eiriau ef, ddydd Sadwrn am 11am yn y farchnad ac am 1pm yn Portland Street.
Yn dilyn gyrfa ddisglair yn gweithio mewn rhai o fwytai gorau'r DU, agorodd Hywel Griffith fwyty Beach House yn Oxwich yn 2016 ac mae bellach wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys seren Michelin. Bydd Hywel yn ymddangos ddwywaith ddydd Sadwrn, am ganol dydd yn y farchnad ac am 2pm yn Portland Street.
Mae Bryn Williams wedi gweithio yn rhai o fwytai mwyaf nodedig Llundain, gan gynnwys cegin Marco Pierre White yn The Criterion a Michel Roux yn Le Gavroche. Bryn yw pen-cogydd bwyty Odette's yn Primrose Hill yn Llundain ac ym Mhorth Eirias, bwyty, caffi a bar glan môr yng ngogledd Cymru. Bydd yn rhannu ei frwdfrydedd dros gynnyrch ffres o Gymru ddydd Gwener yn y farchnad am 11am ac am 1pm yn Portland Street.
Mae Nathan Davies, pen-cogydd SY23 yn Aberystwyth, wedi cynrychioli Cymru yn rhaglen Great British Menu y BBC. Mae ei arddull wrth goginio'n cael ei harwain gan fwydydd tymhorol gyda phwyslais ar flasau cryf. Bydd Nathan yn defnyddio'r cynnyrch gorau yng Nghymru yng nghegin Croeso ddydd Gwener, am ganol dydd yn Portland Street ac am 2pm yn y farchnad.
Mae arddull coginio barbeciw Americanaidd y perchnogion bwytai, yr ysgrifenwyr a'r cyflwynwyr teledu, Samantha Evans a Shauna Guinn wedi profi'n boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd o Gymru sy'n gwylio Sam and Shauna's Big Cook Out yn rheolaidd, sy'n dysgu cymunedau sut i goginio gwleddoedd mawr. Bydd Sam a Shauna'n coginio prydau hynod flasus yng nghegin Croeso yn y farchnad am 3pm ddydd Sadwrn.
Bydd Jürgen Krauss, a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Great British Bake Off, yn pobi yng nghegin Croeso yn Portland Street ddydd Sadwrn am 12pm ac yn y farchnad am 2pm. Roedd y pobydd a aned yn yr Almaen ac sy'n byw yn Sussex, sy'n adnabyddus am ei ddoniau pobi bara, yn boblogaidd ymhlith gwylwyr y rhaglen ac fe'i henwyd fel pobydd yr wythnos deirgwaith yn ystod ei amser ar y sioe ac roedd llawer o bobl yn ei ystyried fel y ffefryn i ennill y gystadleuaeth.
Bydd llawer mwy na cherddoriaeth fyw i'ch diddanu
Bydd sŵn cerddoriaeth Gymreig wreiddiol yn dod â Sgwâr y Castell yn fyw. Bydd cantorion/cyfansoddwyr fel Cerys Hafana, Derw, Dafydd Hedd, Tapestri, Mabli Gwynne, Bwca a Pwdin Reis yn dod â'r gerddoriaeth gyfoes orau i lwyfan Croeso.
Bydd awyrgylch llawn hwyl yng Ngŵyl Croeso gyda chwaraewyr rygbi a chennin pedr enfawr yn cerdded o gwmpas, felly beth am ddweud 'helô' wrth ein cerddwyr ar ystudfachau cyfeillgar? Paentiwch eich wyneb am ddim, galwch heibio'r gweithdy celf a chrefft ar fws Annibendod neu dilynwch Lwybr Dewi Sant i ennill gwobr.
Ewch i Babell Cwtsh am weithgareddau i'r teulu wedi'u cyflwyno'n Gymraeg. Gallwch ddarganfod rhagor am y Gymraeg a gwybodaeth am sut gallwch ddechrau dysgu'r iaith. Bydd hefyd adloniant gan grwpiau fel Mellin Theatre Arts, Cyw o S4C a'r Elvis Cymraeg, Wynne Roberts, felly bydd rhywbeth at ddant pawb yng Ngŵyl Croeso.
Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth am raglen Gŵyl Croeso yn www.joiobaeabertawe.com.
Cofiwch, mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am ddau benwythnos hir ar ddechrau a diwedd wythnos hanner tymor. Os ydych yn byw yn ardal Cyngor Abertawe, gallwch deithio am ddim ar fysus y ddinas. Bydd angen i'ch taith ddechrau cyn 7pm. Ewch i www.abertawe.gov.uk/bysusamddim am ragor o wybodaeth.