Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Bloc addysgu newydd gwerth £6.7m wedi'i agor yn swyddogol

Mae buddsoddiad mawr er mwyn adeiladu bloc addysgu newydd a thrawiadol sy'n cynnwys ffreutur, cegin a neuadd, ynghyd â gosod cyfleusterau chwaraeon awyr agored newydd ac adnewyddu ystafelloedd dosbarth presennol wedi'i gwblhau yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

Opening of  YG Gwyr refurbishment

Agorodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, y prosiect gwerth £6.7m yn swyddogol yr wythnos hon.

Fe'i hariannwyd ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac mae'n rhan o fuddsoddiad o £170m mewn cyfleusterau newydd a gwell yn Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Robert Smith, "Mae'n brosiect gwych arall ar gyfer ysgolion a gyflawnwyd yn ddiogel er gwaethaf y pandemig, y bydd miloedd o ddisgyblion yn elwa ohono.

"Mae mwy o ddisgyblion yn mynychu'r ysgolion cynradd Cymraeg sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr felly mae angen y buddsoddiad hwn i sicrhau y gallwn ateb y galw erbyn i'r disgyblion hynny symud i'r ysgol uwchradd.

"Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r addysg orau posib i bobl ifanc ac mae'r buddsoddiad hwn yn YG Gŵyr yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £170m sy'n cael ei wario ar wella ysgolion ar draws Abertawe, sef y buddsoddiad mwyaf o'i fath a welwyd erioed yn Abertawe."

Meddai Rebecca Evans, "Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gyfun Gŵyr trwy ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd y newidiadau'n creu amgylchedd dysgu gwych gyda chyfleusterau awyr agored a fydd hefyd yn hygyrch i'r gymuned leol ehangach.

"Mae'r buddsoddiad hefyd wedi helpu i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, a bydd yn ein helpu ar ein taith i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Y contractwyr Kier Construction sydd wedi cyflwyno'r prosiect, sy'n cynnwys wyth ystafell ddosbarth newydd a neuadd newydd, sy'n darparu ardal fwyta well sy'n cael ei gwasanaethu gan gegin ysgol newydd.

Mae'r cyfleusterau chwaraeon newydd o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, trac rhedeg a chaeau ymarfer 2G a 3G, hefyd yn profi'n boblogaidd ac maent yn cael eu defnyddio llawer.

Gwnaed hefyd waith gwella ac ailfodelu i rai o'r adeiladau presennol.

Meddai'r Pennaeth dros dro, Jeffrey Connick, "Mae'r adeilad newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn ac mae ein staff a'n disgyblion wedi dweud ei fod wedi newid yr awyrgylch yn yr ysgol.

"Mae'r ystafelloedd dosbarth yn olau ac yn fodern ac mae'r ardal fwyta gymaint yn well na'r cyfleusterau yr oedd gennym yn flaenorol.

"Mae ein hadran addysg gorfforol a'n timau chwaraeon ac athletau'n defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon newydd llawer, ac mae'r disgyblion yn eu defnyddio yn ystod eu hamserau egwyl."