Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Adeilad addysgu newydd yn agor mewn ysgol uwchradd yn y ddinas

Mae disgyblion a staff yn Ysgol Gyfun Gŵyr wedi symud i adeilad addysgu deulawr newydd sbon fel rhan o fuddsoddiad o £6.7m mewn cyfleusterau yn yr ysgol.

New teaching block at YG Gwyr

Mae'r contractwyr Kier Construction wedi cwblhau cam cyntaf y prosiect sy'n cynnwys wyth ystafell ddosbarth newydd ynghyd â neuadd newydd gydag ardal fwyta sydd wedi'i gwella'n sylweddol ac sy'n cael ei gwasanaethu gan gegin ysgol newydd.

Mae cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf newydd gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, trac rhedeg, caeau hyfforddi 2G a 3G, hefyd yn hynod boblogaidd ac yn cael eu defnyddio'n aml.

Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru o dan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Dywedodd y Pennaeth Dafydd Jenkins: "Mae'r adeilad newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn ac mae ein staff a'n disgyblion yn dweud ei fod wedi newid y naws yn yr ysgol.

"Mae'r ystafelloedd dosbarth yn fawr ac yn fodern ac mae'r ardal fwyta'n llawer gwell na'r cyfleusterau a oedd gennym o'r blaen.

"Mae'r cyfleusterau chwaraeon newydd yn cael eu defnyddio'n dda iawn gan ein hadran Addysg Gorfforol, ein timau chwaraeon ac athletau a'r disgyblion yn ystod eu hamser egwyl a chinio."

Bydd ail gam y prosiect yn darparu gwelliannau ac ailfodelu pellach i'r adeiladau presennol sydd bellach wedi'u gwacau, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn.

Ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei orffen, bydd yn cynyddu nifer y disgyblion y gellir eu cael yn yr ysgol o tua 195, gan ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Abertawe.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Robert Smith: "Hoffwn ddiolch i'r ysgol, Kier a'n timau gwasanaethau adeiladau addysg am weithio cystal gyda'i gilydd wrth gyflawni cam cyntaf y prosiect cyffrous hwn - mae'n braf iawn bod y cyfleusterau eisoes yn cael eu defnyddio'n dda.

"Mae mwy o ddisgyblion yn mynychu'r ysgolion cynradd  Cymraeg sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr, felly mae angen y buddsoddiad hwn i sicrhau y gallwn ateb y galw pan fydd disgyblion yn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd.

"Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r addysg orau bosib i'n pobl ifanc ac mae'r buddsoddiad hwn yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn rhan o gyfanswm o £170m sy'n cael ei wario ar wella ysgolion ledled Abertawe, sef y buddsoddiad mwyaf o'i fath a welwyd erioed yn Abertawe."

Close Dewis iaith