Toglo gwelededd dewislen symudol

His Dark Materials yn goleuo oriel yn y ddinas

​​​​​​​Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe ar fin lansio arddangosfa unigryw.

His Dark Materials

His Dark Materials

Am y tro cyntaf, o'r wythnos hon, bydd y cyhoedd yn gallu mwynhau golwg y tu ôl i'r llenni o dair cyfres y rhaglen deledu hynod boblogaidd, His Dark Materials.

Agorir yr arddangosfa'n swyddogol am 5.30pm ar 1 Rhagfyr, gyda mynediad i'r rheini sydd wedi archebu lle ymlaen llaw. Drannoeth, bydd yr arddangosfa'n agored i bawb - mynediad am ddim

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu gweld gwisgoedd, celf gysyniad, fideos o effeithiau gweledol, props a mwy o'r tair cyfres.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae'r arddangosfa hon, y gyntaf o'i bath yn y byd, yn dathlu Cymru fel cenedl wirioneddol greadigol."

Bydd His Dark Materials:  Creu Bydoedd yng Nghymru yn cael ei chynnal yn yr oriel yng nghanol y ddinas tan 23 Ebrill. Caiff ei chyflwyno mewn partneriaeth â'r cwmni cynhyrchu teledu Bad Wolf, IJPR Media a Screen Alliance Wales.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Bad Wolf, Jane Tranter, "Mae lefel y gelfyddyd sydd ynghlwm wrth wneud pob gwisg, set a phrop ar His Dark Materials y tu hwnt i unrhyw beth dwi wedi'i weld yn cael ei gynhyrchu o'r blaen.

Mae'r gyfres deledu'n seiliedig ar nofelau Philip Pullman. Glynn Vivian: Dydd Mawrth i ddydd Sul 10am-5pm (mynediad olaf 4.30pm), www.glynnvivian.co.uk

Llun: Y rhaglen deledu 'His Dark Materials'

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Tachwedd 2022