Mae Wythnos Profi HIV Cymru yn ceisio herio canfyddiadau hen ffasiwn o HIV ac AIDS.
Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi ymgyrch Cymru gyfan i newid canfyddiadau o HIV yn ystod Wythnos Profi HIV Cymru 2024.
Mae'r Cyngor eisoes yn rhan o 'Fast Track Bae Abertawe', a sefydlwyd y llynedd i herio daliadau hen ffasiwn am HIV ac AIDS fel rhan o ymdrech newydd i dorri trosglwyddiad HIV mewn cymunedau lleol i sero erbyn diwedd y degawd.
Cynhelir Wythnos Profi HIV Cymru 2024 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r nod yw annog pobl i gael profion HIV gan ddefnyddio'r gwasanaeth "Profi a Phostio" am ddim a ddarperir gan Iechyd Rhywiol Cymru - partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Fast Track Cymru.
Cael eich profi yw'r unig ffordd o wybod a oes gennych HIV - ac ni fu erioed yn haws.
Yng Nghymru, gall unrhyw un archebu pecyn prawf cartref cyfrinachol am ddim