Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn ymuno mewn seremoni i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost

Heddiw, gwnaeth disgyblion o ysgolion yn Abertawe ymuno ag arweinwyr ffydd a dinesig mewn seremoni wrth i'r ddinas nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.

Holocaust Memorial Day 2025

Holocaust Memorial Day 2025

Mae'n ddigwyddiad blynyddol i goffáu'r rhai sydd wedi colli eu bywydau oherwydd hil-laddiadau ar draws y byd, a thema digwyddiad eleni yw 'Am Ddyfodol Gwell'.

Mae'r Diwrnod Coffáu'r Holocost hwn yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau gwersyll Auschwitz-Birkenau, gwersyll crynhoi mwyaf y Natsïaid, ac mae hefyd yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.

Roedd yr ysgolion a fu'n rhan o'r digwyddiad yn Neuadd y Ddinas yn cynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Yr Olchfa, Ysgol Gynradd Penllergaer, Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan ac Ysgol Gynradd Christchurch.

Roedd y gwesteion yn cynnwys Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, Arglwydd Faer Abertawe, Paxton Hood-Williams, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet ac aelodau o gymunedau aml-ffydd Abertawe.

Daeth Norma Glass, MBE, un o arweinwyr cymuned Iddewig Abertawe, â'r digwyddiad i ben.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Ionawr 2025