Abertawe'n nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost
Mae Abertawe wedi nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost gyda seremoni yn Neuadd y Ddinas a oedd yn cynnwys disgyblion ysgol, arweinwyr dinesig ac aelodau cymunedau ffydd.


Roedd disgyblion o ysgolion yr Esgob Gore, Pentrehafod, Tregŵyr, Bryn Tawe, yr Olchfa a Phenllergaer wedi cymryd rhan yn y seremoni i goffáu'r rheini a gollodd eu bywydau mewn hil-laddiadau.
Y thema ar gyfer eleni oedd Pobl Gyffredin a oedd yn myfyrio ar sut roedd pobl gyffredin yn dramgwyddwyr, yn wyliedyddion, yn achubwyr, yn dystion ac yn ddioddefwyr Holocost y Natsïaid yn yr Almaen ac ar yr hil-laddiadau a gafwyd mewn gwledydd fel Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, Arglwydd Faer Abertawe, Mike Day a Hyrwyddwr Hawliau Dynol y cyngor, Louise Gibbard wedi ymuno â'r disgyblion.
Darllenodd y Prif Arolygydd Declan Cahill, Heddlu De Cymru, Addewid Cymru Gyfan wrth i Norma Glass, MBE, arweinydd blaenllaw yng nghymuned Iddewig Abertawe, ddod â'r digwyddiad i ben.