Ffilm hanesyddol yn dangos ymweliad y Frenhines ag Abertawe ym 1965
Mae ffilm fideo hanesyddol wedi'i rhyddhau sy'n dangos ymweliad EM y Frenhines Elizabeth II ag Abertawe ym 1965.
Mae'r ffilm fer y mae Cyngor Abertawe wedi'i rhoi ynghyd gan ddefnyddio darnau o ffilm o'i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn dangos y diweddar Frenhines a'r Tywysog Philip yn ymweld â Neuadd y Ddinas.
Gwelir torfeydd o ddymunwyr da hefyd yn y fideo ynghyd â thaith y cwpl brenhinol drwy'r ddinas a'u hymadawiad o orsaf drenau Abertawe.
Nid yw angladd y Frenhines ddydd Llun (19 Medi) yn cael ei ddangos ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell. Nid yw'r sgrîn yn gweithio mwyach ond bydd sgrîn fwy modern yn cymryd ei lle yn y dyfodol fel rhan o gynlluniau'r cyngor i weddnewid Sgwâr y Castell.
Bydd lleoliadau yn Abertawe gan gynnwys Sinema Vue yn dangos yr angladd.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Abertawe - fel pob cymuned ledled y DU - yn parhau i alaru dros farwolaeth EM y Frenhines.
"Mae'r ffilm hynod ddiddorol hon o 1965 yn dangos un o'i hymweliadau niferus ag Abertawe dros y blynyddoedd ac mae'n un o sawl ffordd rydym yn dathlu ei bywyd nodedig a'i chyflawniadau helaeth.
"Mae preswylwyr wedi bod yn dangos eu parch hefyd drwy adael blodau ar rotwnda Neuadd y Ddinas a llofnodi Llyfr Cydymdeimlad sydd ar gael yn y Ganolfan Ddinesig ac ar-lein."