HMS Cambria yn dathlu drwy gynnal Gorymdaith Rhyddid Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi
Gall pobl Abertawe ddathlu a saliwtio'u morwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi pan fydd dynion a menywod HMS Cambria yn gorymdeithio drwy strydoedd y ddinas.

Am y tro cyntaf mewn dros 6 blynedd, bydd y Môr-filwyr Brenhinol Wrth Gefn yn dathlu eu hawl hanesyddol i Ryddid y Ddinas.
Mae'r ddinas yn gartref i Adran Tawe o'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn, sef is-uned canolfan y Llynges Frenhinol yng Nghymru, HMS Cambria. Mae'r ganolfan mewn lleoliad gwych yng nglannau Caerdydd.
I ddechrau byddant yn ymgynnull o flaen arweinwyr dinesig a rhanbarthol y tu allan i Neuadd y Ddinas, cyn gorymdeithio i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda holl rodres y Llynges, dan arweiniad Band Môr-filwyr Brenhinol EF Plymouth.
Bydd Swyddog Gweithrediadau HMS Cambria, Is-gomander Andy Davies o Abertawe, hefyd yn mynd i'r orymdaith Ryddid, gan ofalu am y gwestai VIP.
Meddai Andy, "Mae'n bleser gennyf fi a fy nheulu fod yn rhan o'r diwrnod. Bydd fy merched a fy nhad yn gorymdeithio fel rhan o'r Cadetiaid Môr, felly mae'n eiliad falch i'r teulu."
Mae'r Comander Carolyn Jones, Prif Swyddog HMS Cambria, wedi goruchwylio'r uned ers 2020, a dywedodd y byddai'r orymdaith yn rhoi hwb mawr i forâl.
Bydd hi'n arolygu'r milwyr ynghyd â Chyfarwyddwr Personél a Hyfforddiant y Llynges Frenhinol, yr Ôl-lyngesydd Jude Terry, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg Louise Fleet YH, Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart ac arweinwyr dinesig eraill.