Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe yw Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru

Mae Abertawe wedi dod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru yn dilyn blwyddyn o weithredu i gydnabod eu pwysigrwydd i fywydau'r holl breswylwyr a sefydliadau.

Human Rights City Declaration

Human Rights City Declaration

Ymunodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ag arweinwyr Cyngor Abertawe ac uwch-gynrychiolwyr o sefydliadau a busnesau allweddol eraill yn stadiwm Swansea.com ar gyfer y datganiad ddydd Llun (12 Rhagfyr).

Mae sefydliadau wedi bod yn cydweithio i wreiddio hawliau dynol yn eu harferion gwaith pob dydd a chynyddu ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith pobl yn Abertawe.

Meddai Mr Drakeford, "Mae'n bleser mawr gan i ddathlu cyflawniad Abertawe o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

"Mae Abertawe wedi cydnabod pwysigrwydd hawliau dynol fel ffordd o ddiogelu pobl a gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n rhan o'r gymuned.

"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gydweithio â'r rheini sy'n ymroddedig i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol, i'n helpu i adeiladu Cymru gryfach, decach, a mwy cyfartal a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl noddfa".

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, ei fod yn ddiwrnod balch i Abertawe ond dim ond dechrau'r broses yw hyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stewart, "Yr adeg hon y llynedd, gosodon ni'r her i ni'n hunain, ynghyd â'n partneriaid, i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyngor wedi bod yn archwilio ffyrdd y gallwn wella ein gwasanaethau drwy sicrhau bod ffocws ar hawliau dynol ym mhopeth yr ydym yn ei wneud a'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

"Mae awydd gwirioneddol i Abertawe fod yn ddinas lle mae pawb yn gyfartal, lle mae pawb yn deall bod ganddynt hawliau dynol a chyfrifoldebau, yr hyn ydynt, a lle rydym i gyd yn parchu hawliau eraill.

Cyhoeddodd y Cynghorydd Stewart fod y cyngor, ynghyd â Phrifysgol Abertawe, wedi llunio arweiniad i helpu sefydliadau i wreiddio hawliau dynol yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ac y byddai cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain yn cael eu cynnig i sefydliadau ar draws Abertawe.

Roedd y sefydliadau a oedd yn bresennol yn y digwyddiad heddiw yn cynnwys Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Rhagfyr 2022