Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymweliad Brenhinol i nodi nodweddion 'gwyrdd' Abertawe yn ystod blwyddyn y Jiwbilî

Mae Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex wedi helpu i ddathlu Abertawe fel 'Dinas Hyrwyddo' Canopi Gwyrdd y Frenhines yn ystod Ymweliad Brenhinol â'r ddinas.

I nodi'r achlysur, mae Ei Huchelder Brenhinol wedi plannu coeden Jiwbilî ym mharc arfordirol newydd y ddinas, ger Arena Abertawe a agorwyd yn ddiweddar.

Aeth yr Iarlles hefyd ar daith o amgylch y parc, sef y parc dinesig newydd cyntaf yn Abertawe am ddegawd. Bydd EHB yn cwrdd â phobl arbennig, grwpiau lleol a phlant ysgol sy'n hyrwyddwyr gwyrdd yn eu cymunedau, sy'n plannu coed ac yn hyrwyddo mentrau amgylcheddol yn eu hardaloedd. 

Mae Abertawe wedi'i chydnabod fel 'Dinas Hyrwyddo' Canopi Gwyrdd y Frenhines o ganlyniad i'w gwaith cyfredol i blannu miloedd o goed ar draws y ddinas, a hefyd gynlluniau'r cyngor ar gyfer y dyfodol i blannu hyd yn oed mwy o goed. Mae coed wedi cael eu plannu fel rhan o ddatblygiadau ysgolion newydd, gwelliannau mawr i stoc tai'r cyngor a hefyd wrth ddatblygu llwybrau cerdded a beicio newydd.

Ym mis Tachwedd y llynedd, plannodd Prifysgol Abertawe dros 1,600 o goed chwip yng nghaeau chwarae Ashlands. Plannwyd dwsinau o goed hefyd ar dramwyfeydd mawr yng nghanol y ddinas, gan gynnwys Ffordd y Brenin a Wind Street.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe ei bod hi'n fraint i Abertawe fod yn 'Ddinas Hyrwyddo' Canopi Gwyrdd y Frenhines, sy'n dathlu ymrwymiad y ddinas i'w hamgylchedd lleol a her i wneud mwy dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Meddai, "Rydym yn falch iawn o fod yn ddinas hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines. Mae'n anrhydedd enfawr. Rydym wrth ein boddau bod EHB Iarlles Wessex yn ymuno â ni yn ar adeg sy'n arwyddocaol ar gyfer dyfodol ein dinas ac yn ystod Blwyddyn Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines.

"Mae'r parc arfordirol newydd gael ei gwblhau, a'r goeden y mae'r Iarlles yn ei phlannu fydd y nodwedd olaf i'w hychwanegu at gyrchfan newydd arloesol, y bydd ymwelwyr di-rif yn ei fwynhau am genedlaethau i ddod.

"Mae cael ein dynodi'n 'Ddinas Hyrwyddo' Canopi Gwyrdd y Frenhines yn rhoi cyfrifoldeb arbennig i Abertawe i sicrhau mai'r etifeddiaeth rydym yn ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol yw dinas wyrddach, hapusach ac iachach.

"Rydym eisoes wedi sefydlu cysylltiadau cryf â grwpiau cymunedol ac ysgolion ar draws Abertawe i sicrhau bod ymdrech ar y cyd i geisio gwireddu'r uchelgais hwnnw. Eleni, mae gennym gynlluniau i blannu dros 1,000 o goed a 5,600 o goed chwip. Rydym hefyd yn dechrau ar ymarfer mapio amgylcheddol mawr i nodi tir cyhoeddus ac ymylon ffyrdd a fyddai'n elwa o fentrau plannu coed.

"Mae'n ffordd o osod marcwyr gwyrdd yn awr a fydd yn hybu twf mannau gwyrdd yn y blynyddoedd sydd i ddod."

 

Close Dewis iaith