Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwyddiant yn dangos sut mae cynllun cyflogaeth yn helpu Abertawe i dyfu

Mae un o brosiectau adfywio mwyaf blaenllaw Abertawe yn elwa o gynllun sy'n hybu cyfleoedd gwaith pobl o gwmpas y ddinas.

Kabir Balogun

Kabir Balogun

Roedd Hacer Developments - y busnes y tu ôl i fenter ac adeilad Biophilic Living newydd a hynod wyrdd canol y ddinas - wedi cydweithio â menter Llwybrau at Waith Cyngor Abertawe ac mae bellach yn cyflogi Kabir Balogun yn barhaol.

Mae'n dwlu ar y rhan y mae'n ei chwarae yn rhaglen adfywio'r Cyngor sy'n werth £1bn.

Meddai Kabir, "Rwyf wrth fy modd fy mod bellach yn rhan fach ond parhaol o'r broses sy'n arwain at drawsnewid y ddinas.

"Rwy'n diolch i bawb sy'n ymwneud â Llwybrau at Waith a'r cwmni a roddodd waith i mi - Hacer Developments - am roi gobaith mawr i mi ar gyfer y dyfodol. Mae Hacer yn fusnes ysbrydoledig i weithio gydag e'."

Ymunodd Kabir â Llwybrau at Waith ym mis Mai ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe ar lefel meistr mewn peirianneg a rheoli ac ymgymryd â gwaith dros dro fel labrwr.

Roedd y gwaith hwnnw - ar y prosiect Biophilic Living sy'n cael ei adeiladu ar hen safle siop Woolworths yn Stryd Rhydychen ac y disgwylir iddo agor y flwyddyn nesaf - wedi rhoi cyfle iddo roi gwybod i benaethiaid Hacer am ei wybodaeth academaidd arbenigol.

Gan fod hyn wedi creu argraff arnynt, cytunon nhw i'w dderbyn ar raglen Hyfforddiant Rheoli i Raddedigion tri mis drwy Lwybrau at Waith.

Rhagorodd Kabir yn ystod yr amser hwnnw - a chafodd ei gyflogi'n amser llawn yr haf hwn fel rheolwr prosiect cynorthwyol.

Mae e' bellach yn gweithio gyda 50 o bobl y dydd ar y safle, yn goruchwylio gwaith isgontractwyr sy'n cyflenwi gwasanaethau fel gwaith saer, plymwaith, teilsio a gwaith trydan yn bennaf.

Meddai Kabir, "Mae Biophilic Living yn brosiect gwych a fydd, gobeithio, yn gatalydd ar gyfer adeiladu llawer mwy o adeileddau ecogyfeillgar o gwmpas y DU.

"Mae'n amser cyffrous i ganol dinas Abertawe gyda chymaint o waith datblygu'n digwydd sydd hefyd yn cynnwys Neuadd Albert, adeilad Theatr y Palace, Y Storfa, 71/72 Ffordd y Brenin a chymaint mwy.

"Mae Hacer yn falch o fod yn chwarae ei ran - ac rwy'n ddiolchgar iddynt am fy nghroesawu i'w tîm a chynnig cyflogaeth barhaol i mi.

"Maent yn annog arloesedd ac yn cefnogi eu staff, ac mae'r arweiniad a'r mentora gan staff profiadol wedi caniatáu i mi ddarganfod cryfderau nad oeddwn yn ymwybodol eu bod gennyf.

"Rwyf wedi ymrwymo i ddysgu, datblygu a chwarae fy rhan yn nyfodol y busnes ac yn y meysydd y maent yn gweithio ynddynt.

"Rwy'n gobeithio yn y dyfodol agos y gallaf ddod yn rheolwr prosiectau ar gynlluniau tebyg eu maint."

Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Mae Kabir wedi ymgartrefu'n dda yn ein tîm ac mae hyn yn enghraifft arall o ba mor agos rydym yn gweithio gyda Chyngor Abertawe

"Mae gennym yr un weledigaeth - creu canol dinas ffyniannus sy'n ateb heriau'r oes fodern drwy arloesedd.

"Bydd ein cynllun yn ategu popeth arall sy'n digwydd yng nghanol y ddinas i gefnogi pobl leol ac annog busnesau a hyd yn oed mwy o fuddsoddiad."

Mae cynllun Llwybrau at Waith Cyngor Abertawe, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cefnogi'r rheini sy'n 16 oed ac yn hŷn nad oes ganddynt waith. Ei nod yw helpu i'w symud yn agosach i waith neu eu helpu i gael gwaith.

Mae ystod o sefydliadau yn helpu i greu cefnogaeth amrywiol i sicrhau bod llwybrau at sgiliau a thuag at gyflogaeth yn fwy esmwyth. Gall dulliau gynnwys hyfforddiant, profion gwaith, gwirfoddoli, lleoliadau â thâl a chymorth i chwilio am swyddi.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n wych clywed am lwyddiant Kabir.

"Mae buddsoddi mewn pobl a sgiliau yn un o flaenoriaethau allweddol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a dyna pam rydym wedi sefydlu'r rhaglen gyflogadwyedd Llwybrau at Waith."

Meddai'r Cyng. Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les,"Mae gwella cyflogadwyedd a sgiliau cynifer o bobl â phosib yn hanfodol bwysig ar adeg pan fo'n gwaith gwerth £1bn i adfywio Abertawe yn parhau i greu miloedd lawer o gyfleoedd swyddi i breswylwyr lleol."

Mae llwyddiannau diweddar eraill y prosiect Llwybrau at Waith yn cynnwys:

  • Kasen Key, o Glydach a ragorodd yn ystod lleoliad gwaith a thâl gyda Thîm Gwasanaethau Cymunedol y Cyngor - ac sydd bellach mewn rôl amser llawn. Meddai, "Roedd Llwybrau at Waith wedi fy helpu'n fawr iawn. Roeddwn i'n meddwl na fyddwn i'n cael swydd ond gyda'u help rwyf wedi cael un rwy'n ei mwynhau."
  • Cynigiwyd gwaith amser llawn i Andrew Beer o Gorseinon gyda Thîm Gwasanaethau Adeiladau'r Cyngor ar ôl lleoliad llwyddiannus. Roedd wedi cael cyfnod o fod yn ddi-waith cyn hyn. Meddai, "Alla' i ddim diolch digon i Lwybrau at Waith am fy nghynorthwyo i gael gwaith unwaith eto."
  • Mae Jihad Abbar of Townhill yn gweithio'n amser llawn gyda Thîm Gwasanaethau Adeiladau y Cyngor yn dilyn lleoliad gwaith a roddodd sgiliau a hyder o'r newydd iddo.
  • Roedd Charlee Matthews o Ben-lan wedi'i chael hi'n anodd sicrhau gwaith tymor hir nes iddi gysylltu â Llwybrau at Waith. Roedd profiadau fel lleoliad gwaith a thâl fel plastrwr gyda Thîm Gwasanaethau Adeiladau'r Cyngor wedi cynyddu ei phrofiad, ei hyder a'i sgiliau.
  • Mwynhaodd Sadek Ahmed o Waun Wen leoliad gwaith a thâl 13 wythnos gyda Thîm Gwasanaethau Cymunedol y Cyngor, gan ennill sgiliau newydd defnyddiol a chael hwb i'w hyder. Meddai, "Fe wnes i wir fwynhau'r lleoliad ac rwy'n ddiolchgar am yr help a roddwyd."

I ddysgu mwy am gynllun Llwybrau at Waith Cyngor Abertawe a sut y gall eich helpu chi neu eraill, e-bostiwch pathwaystowork@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 637112.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2024