Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun adfywio allweddol yn sicrhau £750,000 mewn grantiau

​​​​​​​Mae prosiect y cyngor i ddod â bywyd newydd i waith copr hanesyddol yr Hafod-Morfa wedi sicrhau £750,000 ychwanegol mewn cymorth grant.

Copperworks

Copperworks

Bydd y cynllun hwn, lle bydd y distyllfa Gymreig Penderyn yn agor fel atyniad ym mhwerdy segur y safle'r flwyddyn nesaf, hefyd yn helpu'r cyngor i ailddatblygu ardaloedd eraill nas ddefnyddir ddigon yng Nghwm Tawe Isaf.

Daw grantiau diweddaraf cynllun y pwerdy o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (£250,000) a Rhaglen Ariannu Ysgogi Cyfalaf Rhanbarthol Llywodraeth Cymru (£500,000).

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Bydd y fenter hon yn hwb mawr i'n gwaith adfywio."

Mae'n bwriadu manylu ar y grantiau a chynnydd ar y safle i Gabinet y cyngor ar 15 Medi.

Bydd rhan o safle'r gwaith copr, yn agos i stadiwm Swansea.com, yn cael ei ailwampio gan y cwmni o Abertawe, John Weaver Contractors ar ran y cyngor

Bu'r gwaith yn bosib o ganlyniad i grant £3.75 miliwn cychwynnol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Cefnogwyd y gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill yn y cyffiniau drwy gyllid adfywio Llywodraeth Cymru.

Llun Sut mae Gwaith Copr yr Hafod-Morfa'n edrych heddiw wrth iddo gael ei adfywio

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith