Toglo gwelededd dewislen symudol

7 peth i'w gwneud yn Abertawe yr hanner tymor hwn

​​​​​​​Mae'r hanner tymor yn prysur agosáu (20-24 Chwefror), ac mae preswylwyr Abertawe'n cael eu hannog i roi cynnig ar rai o lwybrau am ddim niferus y ddinas.

Half Term

Half Term

Gall gweithgareddau lleol ddiddanu teuluoedd, dan do ac yn yr awyr agored, ac mae nifer maawr ohonynt am ddim, yn ôl Cyngor Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Gyda'r dyddiau'n oleuach am fwy o amser, does dim amser gwell i fwynhau'r holl bethau difyr sydd gan y ddinas i'w cynnig.

Mae syniadau'n cynnwys:

Ymweld ag Oriel Gelf Glynn Vivian - Yma gallwch weld yr arddangosfa ddiweddaraf wrth i'r oriel gyflwyno cipolwg y tu ôl i'r llenni ar gyfres deledu arobryn y BBC a HBO, His Dark Materials.

Galw heibio Amgueddfa Abertawe- yma bydd cyfle i gymryd rhan yn Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa: Montogery Bonbon Kids in Museums. Mae'r llwybr ar agor tan ddydd Gwener 31 Mawrth.

Galw heibio Canolfan Dylan Thomas - dyma leoliad arall sy'n cymryd rhan yn nigwyddiad Llwybr Diogelwch yr Amgueddfa: Montgomery Bonbon Kids in Museums, a bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig ar gael yma hefyd

Pori yng nghanol llyfrau un o 17 o lyfrgelloedd Abertawe - Mae gan wasanaeth llyfrgell uchel ei barch y cyngor wythnos orlawn o weithgareddau difyr i ddiddanu teuluoedd yr hanner tymor hwn. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol am fanylion.

Mynd am dro i fwynhau un o lwybrau cerdded Abertawe - mae gan Abertawe 400 milltir o lwybrau hawliau tramwy sy'n addas i bob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.

Mynd ar gefn beic a beicio ar hyd un o rwydweithiau beicio Abertawe - mae gan Fae Abertawe ddigonedd o lwybrau beicio heb draffig. Beiciwch ar hyd y prom!

Dathlu diwylliant yng Ngŵyl Croeso Abertawe - cynhelir yr ŵyl yn Sgwâr y Castell ddydd Gwener 24 Chwefror a dydd Sadwrn 25 Chwefror. Mae'r digwyddiad yn dathlu popeth Cymreig.

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023