Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes y Faeryddiaeth

Disodlwyd hen gorfforaeth Abertawe, a arweinid gan y porthfaer, gan gorfforaeth ddinesig newydd o'r enw 'Maer, Henaduriaid a Dinasyddion Abertawe' ym Medi 1835.

Roedd y gorfforaeth newydd hon, mewn gwrthgyferbyniad â'r hen un,  i gael ei hethol gan drethdalwyr y fwrdeistref. Roedd Deddf Corfforaeth Ddinesig, a gychwynnodd y newidiadau hyn, wedi diffinio, am y tro cyntaf, safbwynt cyfreithiol y maer, y teitl ar gyfer pennaeth y corfforaethau dinesig a fabwysiadwyd fel teitl y corfforaethau dinesig yng Nghymru a Lloegr ar ôl i'r ddeddf gael ei phasio. 

Efallai bod deddfwriaeth llywodraeth leol ddiweddarach a gyflwynwyd rhwng 1835 a 1972 wedi newid rôl y maer ychydig, ond nid yw'r dyletswyddau sylfaenol wedi newid llawer ers 1835.

Gwisgoedd a regalia

Adlewyrchir rôl seremonïol yr Arglwydd Faer yn ei wisgoedd a'i regalia. Mewn nifer o drefi a dinasoedd, mae eitemau o'r fath yn hen iawn. Yn Abertawe, mae byrllysgau wedi'u cludo o flaen  porthfeiri a meiri Abertawe ers yr unfed ganrif ar bymtheg o leiaf. Gwnaed y pâr presennol ym 1753, tra bod pâr a wnaed ym 1615 ym meddiant y cyngor o hyd ond nid ydynt yn cael eu defnyddio bellach.

Gwisgoedd maerol 

Cyflwynwyd y gwisgoedd maerol a'r gadwyn swyddogol yn ystod ail hanner yr bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd gwisgoedd swyddogol y meiri, a gafodd eu gwisgo hyd at Fawrth 1982 yn cynnwys gwisg blew sabl goch a het dri chornel. Cawsant eu cyflwyno am y tro cyntaf gan yr hynafiaethwr, George Grant Francis, yn ystod ei faeryddiaeth  ym 1853-4.

Gadwyn y swydd

Mae cadwyn swyddogol y maer yn dyddio o 1875, pan gyflwynwyd hi i'r gorfforaeth gan Frank Ash Yeo i ddathlu ei faeryddiaeth ei hunan yn ystod y flwyddyn flaenorol. Disodlwyd hen wisgoedd y maer ar 25ain Mawrth 1982 gan wisgoedd yr Arglwydd Faer o sidan du addurnedig a damasg cotwm, a het dri chornel melfed du gyda phlu estrys du.

Newid

Yn ystod y blynyddoedd ers 1835, bu nifer o newidiadau yn statws a maint Abertawe. Mae statws y maer wedi newid hefyd. Ym 1835, maer bwrdeistref Abertawe ydoedd. Daeth Abertawe'n fwrdeistref sirol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, a rhoddwyd statws dinas iddi yn Rhagfyr 1969. 

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, disodlwyd hen ddinas a bwrdeistref sirol Abertawe gan Gyngor Rhanbarthol Abertawe. Ar 1 Ebrill 1974, y diwrnod y daeth y ddeddf i rym, rhoddwyd statws bwrdeistref a dinas i'r rhanbarth, ac o hynny ymlaen enwyd cadeirydd y cyngor rhanbarthol yn faer. 

Ar 22 Mawrth 1982, rhoddodd Ei Mawrhydi Elizabeth II freinlythyrau i ddinas Abertawe a dyrchafwyd statws y maer i Arglwydd Faer. Llwyddodd Awdurdod Unedol Dinas a Sir Abertawe a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 1996, dderbyn statws Dinas a statws Arglwydd Faer yn ôl yn llwyddiannus am yr ail dro.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Gorffenaf 2021