Toglo gwelededd dewislen symudol

Trinwyr gwallt a harddwyr yn ymuno â'r ymgyrch trais domestig

Mae ymgyrch newydd yn gofyn i harddwyr, trinwyr gwallt a barbwyr helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o drais domestig.

Hairdresser_generic

Hairdresser_generic

Yn aml, mae gan bobl yn y diwydiant berthnasoedd da â'u cleientiaid ac maent yn cael sgyrsiau personol â hwy, a gallant fod mewn lle da i'w cyfeirio at gefnogaeth os bydd ei hangen arnynt.

Mae cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda Chymorth i Fenywod Cymru ar yr ymgyrch 'Heads Up'

Yn ogystal â darparu gwybodaeth a deunydd hyrwyddol i fusnesau yn y rhanbarth, cynhelir dwy sesiwn hyfforddiant am ddim hefyd ar gyfer y rheini sydd yn y diwydiant ar 22 a 30 Mawrth.

Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o'i brofi, ac mae'r cyngor, ynghyd â'n partneriaid, bob amser yn ceisio gweld sut gallwn ledaenu'r neges honno.

"Y mis hwn byddwn yn danfon deunyddiau i fusnesau yn y sector hwn a byddwn hefyd yn annog unrhyw un â diddordeb i gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau hyfforddiant am ddim lle byddant yn gallu dysgu llawer mwy."

Meddai Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd CNPT ac Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol ac Amddiffyn y Cyhoedd, "Mae sgyrsiau ag ymarferwyr gwallt neu harddwch yn aml yn cynnwys amrywiaeth o faterion ac mae'n hanfodol bod staff yn cael eu grymuso â'r wybodaeth i gynnig y math iawn o wybodaeth i gleientiaid.

I gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau, ewch i:

Sesiwn 1, 22 Mawrth

https://www.eventbrite.co.uk/e/domestic-abuse-awareness-heads-up-campaign-tickets-261125592677

Sesiwn 2, 30 Mawrth

https://www.eventbrite.co.uk/e/domestic-abuse-awareness-heads-up-campaign-tickets-261760040327

 

Close Dewis iaith