Goleulong yr Helwick boblogaiddyn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae cynlluniau i ddiogelu Goleulong yr Helwickboblogaidd Marina Abertawe ar gyfer y dyfodol wedi cael eu datgelu gan Gyngor Abertawe.


Gofynnir i'r Cabinet gytuno i wario oddeutu £450,000 i adfer y llong coch a gwyn drawiadol sydd wedi'i hangori yn y marina fel y gellir ei diogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Y nod yw adfer yr Helwick yn y dociau sych lleol yn Abertawe lle caiff ei hatgyweirio ac yna ei dychwelyd i'r marina.
Disgwylir i'r Helwick a dwy long arall - yr Olga a'rCanning - gael eu cadw a'u diogelu dan gynllun a allai weld yr Olga yn hwylio eto a'r Canning yn cael ei hadfer gan selogion arbenigol.
Mae'r cyngor hefyd yn cymryd camau gweithredu i amddiffyn y marina rhag llygredd posib drwy gael gwared ar long y Seamark, nad yw'n cael ei defnyddio mwyach ac nad yw'n eiddo i'r cyngor. Mae perchnogion y llong wedi'i gadael yn y Marina ers dros ddegawd. Mae'r cyngor yn defnyddio pwerau statudol i weithredu yn awr cyn i'w chyflwr waethygu.
Mae'r Helwick yn parhau i fod yn rhan o Gasgliad Morol Amgueddfa Abertawe a gofelir amdani o hyd fel arddangosyn yr amgueddfa. Mae'r Olga a'r Canning bellach yn cael eu rheoli fel asedau hanesyddol gan y cyngor.
Mae trafodaethau'n parhau gyda The Steam Boat Trust i gymryd cyfrifoldeb am y Canning - tynfad stêm a adeiladwyd ym 1954 ac a gafaelwyd gan Amgueddfa Abertawe ym 1975. Y gobaith yw y gall yr ymddiriedolaeth adfer a chynnal y llong.
Mae cynlluniau ar gyfer dyfodol y tair llong sy'n eiddo i'r cyngor a'r llong wedi'i gadael yn cael eu trafod gan Gabinet y cyngor yr wythnos nesaf.
Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb: "Mae'r Helwickyn nodwedd eiconig o'r marina ac mae wedi bod yno ers amser maith.
"Dyna pam rydym yn falch iawn o fod wedi llunio cynnig hyfyw a fydd yn golygu bod y llong yn cael ei hatgyweirio fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei mwynhau, sydd wedi cael anogaeth gan arbenigwyr mewn diogelu llongau hanesyddol.
"Rydym wedi defnyddio arbenigedd a phrofiad arbenigwyr mewn llongau hanesyddol ac amgueddfeydd morol o bob cwr o'r DU i helpu i greu cynllun a fydd yn adfywio'rHelwick, y Canning a'r Olga.
"Er y bydd yrHelwick yn anhygyrch o hyd, rydym yn comisiynu arolwg cyflwr llawn ac yn adfer y tu allan i'r llong fel y gall pobl ei gweld am flynyddoedd i ddod.
Meddai'r Cyng. King, "Mae dyfodol y tynfad stêmCanninghefyd yn edrych yn ddisglair. Mae ein trafodaethau â The Steam Boat Trust hefyd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym yn gobeithio y gallant ddarparu cartref newydd ar ei gyfer."
Ychwanegodd, "Nid yw'r Seamarkerioed wedi bod yn eiddo i'r cyngor ac yn dilyn ymdrechion helaeth i gysylltu â'i pherchnogion, rydym wedi penderfynu bod yn rhaid i ni weithredu yn awr i gael gwared arni.
"Mae'r Marina yn boblogaidd iawn fel cyrchfan ac fel lle i fyw. Cael gwared ar y Seamarkyw'r peth iawn i'w wneud i ddiogelu'r dyfroedd rhag llygredd a gwella golwg a naws yr ardal."
Dywedodd Hannah Cunliffe, Cyfarwyddwr National Historic Ships UK, sef corff cynghori annibynnol i Lywodraeth y DU ac awdurdodau lleol ar longau hanesyddol, fod y corff yn falch o benderfyniad y cyngor i fuddsoddi mewn diogelu'r Helwick.
Meddai, "Rydym yn falch iawn bod Cyngor Abertawe wedi penderfynu buddsoddi yn nyfodol yr Helwick a bod The Steam Boat Trust, sydd eisoes yn cefnogi dau dynfad o'r Llynges Hanesyddol Genedlaethol, yn ystyried caffael y Canning.
"Mae'rHelwick a'rOlgaar restr y Llynges Hanesyddol Genedlaethol, sy'n cynnwys oddeutu 200 o longau y tybir eu bod o arwyddocâd digyffelyb fel y cynrychiolwyr gorau o'u math sydd wedi goroesi.
"Byddwn yn gweithio gyda'r cyngor i geisio dod o hyd i geidwad addas ar gyfer yr Olga a byddwn yn barod i gynghori ar arferion gorau ar gyfer cofnodi a dadadeiladu'r Seamark os nad oes dewis amgen ymarferol ar gael."
Meddai Chris Bannister o The Steam Boat Trust, "Mae The Steam Boat Trust yn falch iawn o gyhoeddi ei bwriad i roi bywyd newydd i dynfad stêm hanesyddol y Canning.
"Mae ein cynlluniau yn cynnwys adfer ac adfywio'r llong dros y 18 mis nesaf yn ei lleoliad presennol, gan ddod â systemau a pheiriannau yn ôl i gyflwr gweithio.
"Yn dilyn y cyfnod hwn o ofal a sylw, efallai y bydd y Canning wedyn yn gwneud ei ffordd i arfordir dwyreiniol Lloegr i ymuno â dwy chwaerlong, gan ddod yn rhan o'n llynges tynfadau stêm cadwedig. Rydym yn gyffrous i ddechrau'r bennod newydd hon yn stori'rCanning ac i rannu ei chynnydd â'r cyhoedd."
Cwestiynau Cyffredin
Pa gamau gweithredu y mae'r cyngor yn eu cymryd a pham?
Mae'r cyngor yn datblygu dull newydd o ymdrin â'r llongau hanesyddol ym Marina Abertawe. Mae hyn yn cynnwys tair llong dan berchnogaeth y cyngor ac un llong wedi'i gadael sydd yn y Marina ar hyn o bryd.
Mae'r cyngor wedi bod mewn cysylltiad â National Historic Ships UK, Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac arbenigwyr eraill o bob cwr o'r wlad i ofyn am gyngor a chefnogaeth ynghylch y ffordd orau o ymdrin â nhw.
Rydym yn parhau i siarad â'r sefydliadau hyn, sydd wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer ein hymdrechion.
Ym mha gyflwr y mae'r llongau?
Mae'r tair llong dan berchnogaeth y cyngor, sef yr Helwick, yCanning a'r Olga, ar gofrestr llongau hanesyddol National Historic Ships UK ar hyn o bryd. Mae arolygon cychwynnol o'r llongau yn dangos bod eu cyflwr yn amrywio ac mae'r cyngor yn bwriadu cadw'r tair llong hyn fel y gellir achub pob un a'i gwella.
Llong wedi'i gadael yw'rSeamarkac nid yw dan berchnogaeth y cyngor. Er gwaethaf ymdrechion i olrhain y perchnogion, nid oes unrhyw un wedi dod ymlaen. Oherwydd cyflwr gwael iawn y llong, mae'n peri risg amgylcheddol a pherygl llygru i'r marina a bydd yn cael ei symud.
Beth yw hanes yrHelwick?
Yr Helwick, a gafaelwyd gan Gyngor Dinas Abertawe ym 1977, yw'r mwyaf eiconig o'r llongau hanesyddol yn y marina. Mae goleulongau yn cael eu nodi yn ôl eu rhif, yn hytrach nag enw. Adeiladwyd yr oleulong fel rhif 91 ar gyfer corfforaeth Trinity House ac fe'i hadeiladwyd gan Phillips and Son Ltd. o Dartmouth ym 1937. Yn gyffredinol, roedd y llongau hyn, a fyddai'n cael eu hangori mewn safleoedd lle byddai bron yn amhosibl adeiladu goleudai statig, yn rhybuddio llongau rhag beisfannau a banciau tywod. Roedd goleulongau yn cael eu symud o gwmpas drwy ddefnyddio tynfad, felly nid yw'r Helwickerioed wedi gallu symud ei hun.
Beth yw'r cynigion ar gyfer yr Helwick?
Yr Helwick yw'r mwyaf nodedig a'r mwyaf hanesyddol o'r llongau yn y marina. Y cynllun yw mynd â hi i'r dociau sych lleol, ei hatgyweirio a'i hadfer, a'i dychwelyd i'r marina.
Ar ôl ei hadfer bydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei mwynhau, ond ni fydd yn hygyrch i'r cyhoedd. Ni fydd y llong yn mynd allan i'r môr.
Beth yw hanes y Canning?
Adeiladwyd y tynfad stêm Canning ym 1954 gan Cochrane and Sons of Selby. Bu'n gweithredu yn Lerpwl tan 1966 pan gafodd ei throsglwyddo i Abertawe a dechreuodd weithredu ym Môr Hafren. Roedd y Canningyn gweithredu yn Abertawe tan ganol y 1970au. Mae arwyddocâd hanesyddol y llong yn bennaf mewn perthynas â'r ffaith ei bod hi'n un o'r tynfadau stêm olaf a adeiladwyd. Caffaelwyd y llong gan Gyngor Dinas Abertawe ym 1975.
Beth yw'r cynllun ar gyfer yCanning?
Mae The Steam Boat Trust wedi mynegi diddordeb mewn ychwanegu'r Canning at y llynges agerlongau yng nghartref yr ymddiriedolaeth yn Rochester.
Mae gan yr ymddiriedolaeth fynediad at arbenigedd a chyllid grant nad oes gan gyrff cyhoeddus fel y cyngor fynediad atynt.
Mae'r ymddiriedolaeth yn bwriadu cwblhau arolygiad cychwynnol a gwneud gwaith atgyweirio yn Abertawe dros gyfnod o oddeutu 18 mis. Mae llwyddiant The Steam Boat Trust yn adfer llongau hanesyddol eraill yn golygu y gall y Canningedrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair.
Gallwch ddarllen rhagor am The Steam Boat Trust a'i hymrwymiad i adfer llongau hanesyddol yma.
Beth yw hanes yr Olga?
Adeiladwyd yr Olga ym 1909 gan John Bowden o Borthleven yng Nghernyw. Roedd yr Olga, y rhoddwyd y rhif 12 iddi, yn gweithredu fel llong beilot yn y Barri tan 1917. Er gwaethaf ei maint, dyluniwyd yr Olgafel llong i'w gweithredu gan griw o ddau. Perchennog cyntaf yr Olga oedd Henry Charles Edmunds, o Gasnewydd, ac fe'i gwerthwyd i beilot o'r Barri ym 1911. Gwerthwyd yrOlga i berchennog o Abertawe fel llong bysgota ym 1918.Yna, defnyddiwyd yrOlga fel bad hwylio preifat gan amrywiaeth o berchnogion tan 1984.
Beth yw'r cynllun ar gyfer yrOlga?
Mae'r Olga yn addas i'r môr ond mae angen cynnal arolwg arni allan o'r dŵr ac mae angen ardystiad gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau cyn y gellir defnyddio'r llong yn fasnachol.
Fel llong bren, mae angen hwylio'r Olgayn rheolaidd gyda staff cymwys er mwyn ei chadw mewn cyflwr da.
Cynllun y cyngor i amddiffyn yr Olga yw chwilio am berchnogion newydd a chanddynt yr arbenigedd a'r sgiliau angenrheidiol i hwylio a gofalu amdani er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Beth bydd y newidiadau yn eu golygu ar gyfer y marina?
Bydd cadw'r Helwick yn gwella golwg a naws gyffredinol y marina fel cyrchfan ac fel lle i fyw.
Bydd cael gwared ar y Seamark sydd wedi'i gadael yno yn diogelu'r marina rhag llygredd, ond bydd hefyd yn gwella golwg a naws y marina ac yn rhyddhau angorfeydd ar gyfer llongau eraill, y mae galw mawr amdanynt ar hyn o bryd.