Lles a chyflawniad yn ganolog i'r ysgol
Mae lles a chyflawniad disgyblion yn ganolog i Ysgol Gynradd Hendrefoilan, canfu arolygwyr Estyn.
Dywedodd yr arolygwyr fod yr ysgol yn lle digynnwrf a hapus lle mae disgyblion yn gweud cynnydd da ac yn cyflawni'n dda.
Ymwelodd yr arolygwyr ag Ysgol Gynradd Hendrefoilan yn gynharach eleni ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Mae'n dweud: "Mae staff yn datblygu perthnasoedd gwaith da â disgyblion a'r gymuned.
"Mae disgyblion o bob oed yn gyfeillgar, yn gwrtais ac yn siarad yn hyderus am eu dysgu."
Dywedwyd bod y pennaeth Aimee Field yn cael ei chefnogi'n dda gan y corff llywodraethu a bod arweinwyr ac athrawon yr ysgol, ar y cyd ag ysgolion lleol eraill, wedi llunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion y disgyblion yn dda.