Bydd eich cyngor yma i chi'r gaeaf hwn
Mae Cyngor Abertawe'n lasio ei becyn cymorth a chefnogaeth mwyaf erioed ar gyfer pobl ifanc, unigolion, teuluoedd a phreswylwyr hŷn y gaeaf hwn.
Bydd hyn yn cynnwys bwyd am ddim a thalebau siopa bwyd, trafnidiaeth am ddim, gweithgareddau am ddim a gwell cefnogaeth a chymorth.
Mae dros £650,000 ar gael fel rhan o ymgyrch 'Yma i chi'r gaeaf hwn' i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gyda chostau'r Nadolig, gwyliau ysgol neu'r rhai sy'n teimlo'n unig neu'n ynysig.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Gwyddom fod y Nadolig a'r gaeaf yn rhoi llawer o bwysau ar deuluoedd ac unigolion y maent eisoes yn ei chael hi'n anodd, felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu'n lleol i helpu a chefnogi ein preswylwyr yn ystod y cyfnod hwn.
"Bydd bwyd am ddim a thalebau siopa bwyd ar gael i sicrhau bod teuluoedd a phlant sy'n agored i niwed yn gallu cael y bwyd y mae ei angen arnynt yn ystod y gwyliau, a byddwn yn sicrhau bod lleoedd cynnes a chroesawgar ar gael i bobl ddod ynghyd os ydynt yn teimlo'n unig neu'n ynysig. Byddwn hefyd yn darparu cymorth i'n banciau bwyd lleol a darparwyr bwyd eraill yn ystod y cyfnod hwn o alw mawr.
"Bydd cymorth wedi'i dargedu ar gyfer teuluoedd ac unigolion a rhaglen fawr o ddigwyddiadau cost isel ac am ddim ar gyfer pobl iau a hŷn.
"Bydd y cymorth hwn yn ategu llawer o fentrau eraill sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a gyhoeddwyd eisoes, gan gynnwys y cynnig bysus am ddim sy'n dychwelyd am 19 diwrnod yn y cyfnod cyn y Nadolig a thros y Flwyddyn Newydd, a all arbed hyd at £20 y dydd mewn costau teithio i deulu o 4."
Mae ceisiadau bellach ar agor i elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau wneud cais am grantiau os ydynt yn rhedeg unrhyw un o'r cynlluniau canlynol:
- Bwyd am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r Nadolig a gwyliau hanner tymor mis Chwefror.
- Lleoedd Llesol Abertawe sy'n darparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl ddod i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
- Cymorth Bwyd Uniongyrchol drwy fanciau bwyd a mentrau cymunedol ac elusennol eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
- Gweithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
- Gweithgareddau i bobl hŷn yn ystod y gaeaf.
Gall sefydliadau gyflwyno cais yn: https://www.abertawe.gov.uk/article/33023/Grant-Gaeaf-Llawn-Lles-2024--2025
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Mercher 20 Tachwedd fel y gall y grantiau gyrraedd y sefydliadau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus ac sydd wedi cynllunio gweithgaredd ar gyfer cyfnod y Nadolig.