Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth i deuluoedd mewn angen dros y Nadolig

Mae mwy na 1,000 o deuluoedd ac unigolion yn Abertawe'n cael cymorth uniongyrchol gyda chostau'r gaeaf a'r Nadolig diolch i Gyngor Abertawe.

Vouchers - Here For You This Christmas

Vouchers - Here For You This Christmas

Mae'r cynllun talebau archfarchnad yn un rhan o'r pecyn cymorth a chefnogaeth mwyaf erioed i deuluoedd a chymunedau yn y ddinas dan yr ymgyrch Yma i Chi y Gaeaf Hwn.

Bydd aelwydydd a nodir gan ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, cynghorwyr wardiau a sefydliadau partner yn derbyn talebau archfarchnad cyn Dydd Nadolig.

Mae cymorth hefyd i fwydo disgyblion dros wyliau'r Nadolig a hanner tymor, cyllid i Leoedd Llesol Abertawe sy'n cynnig mannau croesawgar i bobl ymgasglu a chymdeithasu, a gweithgareddau am ddim a gweithgareddau â chymhorthdal i bobl ifanc a hŷn yn ystod y gaeaf.

Mae'r mentrau eraill yn cynnwys bysus am ddim i bawb ar 19 o ddyddiadau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig a'r flwyddyn newydd, gan helpu pobl i siopa a chefnogi busnesau lleol.

Mae hefyd grantiau i fanciau bwyd a darparwyr bwyd eraill drwy gydol y cyfnod hwn o alw mawr, ac addewid y bydd gwely yn Abertawe bob amser i unrhyw un mewn perygl o fod yn ddigartref sydd am gael gwely.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rydym yn gwybod bod cyfnodau'r Nadolig a'r gaeaf yn rhoi pwysau mawr ar deuluoedd ac unigolion sydd eisoes yn cael anawsterau, felly rydym yn gwneud popeth y gallwn yn lleol i helpu a chefnogi ein preswylwyr drwy roi cyllid gwerth mwy na £650,000 i'n hymgyrch Yma i Chi y Gaeaf Hwn.

"Mae'r teuluoedd a'r unigolion sydd â'r anghenion mwyaf yn derbyn y talebau siopa fel y gallant gael gafael ar yr hanfodion yn ystod y gwyliau ac fel na fydd angen unrhyw beth arall arnynt ar Ddydd Nadolig."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024