Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Cyfleoedd ariannu yn cael eu cynnig ar gyfer digwyddiadau cymunedol

Mae cymunedau lleol Abertawe yn cael y cyfle i gynnal eu digwyddiadau eu hunain ar thema treftadaeth.

Killay

Killay

Mae Cyngor Abertawe yn darparu cyllid o hyd at £7,000 ar gyfer pob un.

Gallai'r digwyddiadau amrywio o ŵyl fwyd i ymgyrch siopa'n lleol, neu o ŵyl oleuadau i ffair sy'n cynnwys cyflenwyr nwyddau crefft.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym am glywed syniadau gwych a fydd yn rhoi hwb i'n cymunedau lleol.

"Rydym am i'r digwyddiadau hyn roi hwb i nifer yr ymwelwyr â'r cymunedau hyn, a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli.

"Mae gan bob un o'n hardaloedd lleol eu cryfderau a'u treftadaeth unigryw eu hunain, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan allweddol wrth adeiladu treftadaeth gref Abertawe.

"Edrychwn ymlaen at weld rhai syniadau gwych yn cael eu cyflwyno er mwyn cael cyllid ar eu cyfer."

Gwahoddir ceisiadau gan gymunedau Clydach, Gorseinon, Tregŵyr, Cilâ, Treforys, Y Mwmbwls, Pontarddulais, Sgeti ac Uplands.

Mae cyllid gwerth rhwng £5,000 a £7,000 ar gael ar gyfer digwyddiadau arfaethedig a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r canolfannau ardal. Rhaid iddynt gael eu cyflwyno cyn 2025.

Bydd y cyllid yn cael ei gynnig ar sail y cyntaf i'r felin, a bydd yn dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd yn ategu rhaglen adfywio barhaus gwerth £1bn y Cyngor ar gyfer Abertawe.

Mae swyddogion y Cyngor yn hapus i gynnig arweiniad ar syniadau am ddigwyddiadau ac wrth gwblhau'r ffurflen gais syml.

Rhagor o wybodaeth: E-bostiwch Amanda.Jones@abertawe.gov.uk neu Bethan.Dardecker@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Awst 2024