Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth yn helpu gyda phryderon costau byw dros y Nadolig

Mae gwasanaeth poblogaidd yn ninas Abertawe wedi cyhoeddi rhaglen o ddigwyddiadau cyn y Nadolig i helpu pobl i fynd i'r afael â phryderon costau byw.

Switched On - High Street

Switched On - High Street

Mae'r hwb ymwybyddiaeth ynni 'Switched On', a agorwyd yn swyddogol ar y Stryd Fawr ar 17 Tachwedd, yn cynnig cyngor ac arweiniad am ddim ar gadw biliau tanwydd mor isel â phosib.

Mae ei rhaglen newydd o weithgareddau arbennig yn rhoi ffocws agos ar bynciau fel anrhegion gwyrdd, pethau atal drafft DIY, crefftau Nadolig rhad, cymorth i dalu tanwydd a grantiau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ar gyfer y cartref.

Ariennir y gwasanaeth gan Gyngor Abertawe ac fe'i rhedir gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe.

Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Mae canolfan Switched On ar y Stryd Fawr yn lleoliad hygyrch a chyfleus i bobl o bob cefndir ofyn am gyngor ar sut y gallant ymdopi â'r argyfwng costau byw."

Mae gweithgareddau Switched On sydd ar y gweill yn cynnwys:

19-20 Tachwedd o 10am - Ffair Werdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

24 Tachwedd, 1pm-3pm - Creu pethau atal drafft wedi'u huwchgylchu Sesiwn galw heibio am ddim yn Switched On.

15 Rhagfyr, 1pm-3pm - Sesiwn galw heibio am ddim yn Switched On, lle gall ymwelwyr ddod i greu crefftau Nadoligaidd gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u huwchgylchu.

17 Rhagfyr - 9am-3pm - Diwrnod agored. Gall y sawl sy'n ymweld â Switched On gael gwybodaeth am gymorth a grantiau taliadau tanwydd er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Meddai Rhian Corcoran, rheolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, "Mae pobl sy'n pryderu am gostau tanwydd yn ymweld â'n hwb yng nghanol y ddinas neu'n dod i ddigwyddiadau cymunedol."

Mae'r partneriaid a'r cefnogwyr yn cynnwys y gweithredwr rhwydwaith ynni, National Grid Electricity Distribution, yr Asiantaeth Ynni Genedlaethol, yr arbenigwyr tlodi tanwydd Cymru Gynnes, adrannau'r cyngor, elusen ieuenctid MAD Abertawe, EON Energy, City Energy ac Yes Energy Solutions.

Switched On: Gweithdai Cymunedol Abertawe, 208 Y Stryd Fawr, bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Rhagor: www.environmentcentre.org.uk/switched-on

Llun: Switched On - yr hwb ymwybyddiaeth ynni newydd.

 

 

Close Dewis iaith