Siopau'r Stryd Fawr yn cael bywyd newydd - dewch i gael cip
Gwahoddir preswylwyr a grwpiau cymunedol i ymweld â rhes o hen eiddo masnachol ar y Stryd Fawr y rhoddir bywyd newydd iddynt.
Mae Cyngor Abertawe wedi ailwampio'r eiddo ger goleuadau Dyfaty ac maent bellach ar gael at ddefnydd cymunedol.
Mae cynlluniau i gynnwys lleoedd bwyd dros dro, busnesau a gweithgareddau hamdden.
Mae elusennau a sefydliadau eraill y trydydd sector hefyd am ddefnyddio'r cyfleusterau, ynghyd â gwasanaethau'r cyngor.
Cynhelir diwrnod agored rhwng 2pm a 5pm ar 1 Mawrth ac i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi bydd lluniaeth Cymreig am ddim a cherddoriaeth i'ch diddanu.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Mae'r gwaith a wnaed i drawsnewid yr eiddo'n anhygoel ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn awyddus i weld yr adeiladau hyn ar agor, ac i ddechrau eu defnyddio.
"Mae bob amser wedi bod yn bwysig i ni ein bod yn cynnwys y gymuned wrth benderfynu ar beth sy'n mynd yma, a sut y caiff yr eiddo eu defnyddio.
"Felly galwch heibio ar 1 Mawrth i edrych o gwmpas a mwynhau ychydig o adloniant Dydd Gŵyl Dewi."
Gall unrhyw un nad yw wedi cysylltu eto, y mae ganddo syniadau neu sydd am gymryd rhan e-bostio: ourswanseahighstreet@gmail.com