Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hen siopau'r Stryd Fawr yn cael bywyd newydd

Gwahoddwyd preswylwyr a grwpiau cymunedol i ymweld â rhes o hen eiddo masnachol ar y Stryd Fawr y rhoddir bywyd newydd iddynt.

High Street Shops launch

High Street Shops launch

Dros yr wythnosau nesaf bydd yr eiddo sydd wedi'u hailwampio ger goleuadau Dyfaty yn dod yn gartref i amrywiaeth o ddefnyddiau newydd gan gynnwys busnesau dros dro, gweithgareddau addysgol a hamdden a gwaith allgymorth.

Cafodd pobl sy'n byw gerllaw ynghyd ag elusennau a sefydliadau trydydd sector gyfle i edrych ar y trawsnewidiad mewn digwyddiad ar thema Dydd Gŵyl Dewi yr wythnos hon.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Rwy'n hynod gyffrous am botensial yr unedau hyn ac rwy'n falch iawn o'r gwaith trawsnewid sydd wedi digwydd."

Close Dewis iaith