Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gartrefi cyngor yn cael eu cwblhau ar gyfer pobl Abertawe

Mae pump ar hugain o gartrefi ynni effeithlon newydd sy'n cael eu hadeiladu gan Gyngor Abertawe bron â bod yn barod i bobl fyw ynddynt.

Hillview

Hillview

Mae'r eiddo, y maent i gyd yn gartrefi tair ystafell wely, yn cael eu hadeiladu yn Hillview Crescent, y Clâs. Byddant ar gael yn fuan i bobl leol am rent fforddiadwy.

Fe'u hadeiladwyd fel rhan o ymgyrch y cyngor i greu 1,000 o gartrefi cyngor o 2021-31.Mae'r cynllun yn cynnwys buddsoddiad o £56.2m dros y pedair blynedd i 2024/25.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, "Mae'r eiddo yn Hillview yn rhai o gartrefi newydd mwyaf ynni effeithlon Cymru a byddant yn wych i denantiaid.

"Mae galw mawr am dai fforddiadwy o safon yn Abertawe, ar gyfer pobl sengl a theuluoedd. Byddwn yn parhau i adeiladu cartrefi newydd er mwyn ateb y galw hwn.

"Mae gwell cartrefi i'n preswylwyr yn un o flociau adeiladu creu dyfodol gwell i blant, teuluoedd a'n dinas.

"Rydym wedi parhau â'n rhaglen adeiladu tai drwy gydol y pandemig oherwydd bydd ein cartrefi newydd yn gwella iechyd pobl, yn lleihau tlodi ac yn cyfrannu at gymunedau hapusach."

Daw'r arian ar gyfer cartrefi newydd a gwelliannau i gartrefi sy'n bod o'r rhent a delir gan denantiaid, grantiau gan Lywodraeth Cymru a benthyca oddi wrth y Cyfrif Refeniw Tai. Ni ddaw dim o'r gwariant o dreth y cyngor.

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys creu 18 o gartrefi yn Colliers Way, Pen-lan, ac wyth fflat yn hen adeilad Bryn House, Uplands. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cartrefi newydd yn West Cross, Gorseinon a Ravenhill. Mae cyfleoedd eraill yn cael eu cynllunio a'u ceisio.

Bydd cartrefi Hillview yn barod i bobl fyw ynddynt ym mis Ebrill a mis Mai.

 

 

Close Dewis iaith