Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau i roi bywyd newydd i ragor o adeiladau hanesyddol Abertawe

Trowch y cloc yn ôl i'r 1970au a'r 1980au ac mae'n ddigon posib y byddech wedi galw heibio siop JT Morgan yng nghanol dinas Abertawe cyn mwynhau tro hamddenol o gwmpas Gerddi Sgwâr y Castell a gwylio ffilm yn sinema'r Castle.

JT Morgan visit

JT Morgan visit

Neidiwch ymlaen sawl degawd ac mae gwaith gwella'n digwydd yn awr i roi bywyd newydd i'r tri lleoliad hyn wrth i ddyfodol newydd ar gyfer canol y ddinas barhau i ddatblygu.

Dan gynlluniau a arweinir gan Oriel Elysium, bydd hen adeilad JT Morgan ar Belle Vue Way - sydd wedi bod yn wag ers 2008 - yn dod yn gartref yn fuan i ganolfan gelfyddydau gymunedol ac yn ganolfan i weithwyr proffesiynol creadigol.

Mae cyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn helpu i ariannu'r gwaith tynnu a gosod mewnol, yn ogystal â gwelliannau i adeiledd y to.

Mae'r prosiect hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i chynllun Trawsnewid Trefi - ac mae disgwyl i gam cyntaf y cynllun gael ei gwblhau yn ystod y misoedd nesaf.

Castle Cinema visit (April 2025)

Mae'r cynlluniau ar gyfer hen adeilad sinema'r Castle, dan arweiniad y cwmni nid er elw Beacon Cymru mewn partneriaeth â'r contractwyr Easy Living Ltd, yn cynnwys 30 o fflatiau newydd ac unedau masnachol newydd.

Bydd yr unedau masnachol newydd yn cynnwys rhan isaf yr adeilad sy'n wynebu'r Strand, y bwriedir iddi gynnwys swyddfeydd bach.

Yn y prif weddlun sy'n wynebu Worcester Place a'r castell, mae uned fasnachol newydd dros ddau lawr yn cael ei chreu i'w defnyddio fel caffi neu fwyty.

Cynigir blwch gwydr newydd a fydd yn rhan o'r uned hon ac a fydd yn wynebu'r castell a mannau agored.

Cefnogir y cynllun hefyd gan Gyngor Abertawe drwy gyllid Llywodraeth Cymru.

Mae Laserzone - a fu'n gweithredu yn yr adeilad ers blynyddoedd lawer - wedi adleoli'n ddiweddar i hen uned Iceland yn St David's Place.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r gwaith i adnewyddu hen adeiladau JT Morgan a sinema'r Castle fel y gellir eu defnyddio unwaith eto'n dilyn prosiectau eraill sydd wedi arwain at ailagor adeiladau Theatr y Palace ac Albert Hall yn y blynyddoedd diweddar.

"Mae'r prosiectau hyn yn bwysig gan eu bod yn helpu i warchod hanes cyfoethog Abertawe wrth greu cyfleoedd ar yr un pryd - cartrefi sy'n dod â phobl i ganol y ddinas, lleoedd masnachol a swyddfeydd sy'n ysgogi arloesedd ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n dod i ganol y ddinas, a lleoliadau sy'n dathlu celf ac ysbryd cymunedol.

"Ar ôl ei gwblhau, bydd prosiect sinema'r Castle hefyd yn edrych dros Erddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd lle mae gwaith wedi dechrau'n ddiweddar i drawsnewid y lle yn gyrchfan llawer gwyrddach a mwy bywiog yng nghanol y ddinas.

"Bydd y cyfuniad o wella golwg a naws canol y ddinas wrth greu mwy o fannau byw a gweithio wedyn yn denu'r niferoedd ychwanegol o ymwelwyr sydd eu hangen i annog mwy o siopau a busnesau eraill i agor yno."

Bydd nodweddion Sgwâr y Castell wedi'i ailwampio, i'w gorffen erbyn diwedd 2026, yn cynnwys rhagor o wyrddni gan gynnwys lawntiau newydd a phlanhigion addurniadol a bioamrywiol i ddarparu ardal lle mae 40% ohoni'n wyrdd.

Bwriedir codi dau bafiliwn newydd ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu.

Bydd nodwedd ddŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol hefyd yno, yn ogystal â sgrin deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf, ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored a lle sydd wedi'i gadw at ddefnydd y cyhoedd.

Mae cynlluniau dan arweiniad Kartay Invetsments ar gyfer lloriau uchaf adeilad McDonald's canol y ddinas yn cynnwys 29 fflat breswyl o ansawdd uchel sy'n edrych dros Erddi Sgwâr y Castell wedi'u hailwampio.

Bydd gwaith i drawsnewid hen uned BHS yn hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa yn cael ei gwblhau'n ddiweddarach eleni ac mae cynlluniau i ddefnyddio adeilad hanesyddol Mond ar gornel Union Street a Park Street unwaith eto'n cael eu harwain gan St Mary's Developments.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2025